Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Clare Marie Bailey: Parallel Lives

Clare Marie Bailey: Parallel Lives

15 Hydref 2023

Ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau yw Clare Marie Bailey a gafodd ei magu ar Ynys Môn lle mae’n byw ar hyn o bryd. Caiff ei gwaith ei ddylanwadu gan sinema avant-garde, ffilmiau B, diwylliant ‘sothach’ a delweddau hudol. 

Casgliad o ffilmiau analog yw Parallel Lives sy’n chwarae fel ffilmiau teledu byr sydd wedi cael eu hanghofio o blentyndod cyn y rhyngrwyd, gweledigaethau breuddwydiol o realiti cyfochrog. Wedi’u trwytho ag arswyd gwerinol a swrealaeth straeon tylwyth teg, maen nhw’n cynnig cipolwg o fyd lle mae ffiniau realiti wedi’u pylu, gan bontio elfennau gweladwy ac anweladwy.  

Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn.  

Amser dechrau: 6pm

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ond mae angen tocyn.