Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Flight of the Phoenix gydag Elaha Soroor

Flight of the Phoenix gydag Elaha Soroor

15 Hydref 2023

Premiere byd o berfformiad amlddisgyblaethol ac arloesol yw Flight of the Phoenix, sy’n plethu cerddoriaeth a straeon wedi’u hysbrydoli gan fywyd ac etifeddiaeth Abey Mirza, cantores Hazara o Affganistan, ac wedi’u hailddychmygu drwy lais ac arddull Elaha Soroor (The Boy with Two Hearts). 

Bydd tîm artistig unigryw yn rhan o’r prosiect, gan gynnwys Elaha Soroor, Joost Hendrickx ar yr offerynnau taro, Josh Middleton ar yr allweddellau ac aelodau o’r Oasis One World Choir. Bydd pob artist yn dod â’i dalentau a safbwyntiau unigryw i'r prosiect, gan greu tapestri cyfoethog o sain a naratif.

Fel rhan o’r perfformiad cerddorol, bydd Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru 2022, yn adrodd straeon o gadernid a goroesi. Bydd ei straeon yn ehangu dealltwriaeth y gynulleidfa o’r heriau mae artistiaid benywaidd wedi eu hwynebu drwy hanes. Bydd y straeon, fel y gerddoriaeth, wedi’u hysbrydoli gan fywyd Abey Mirza ond byddan nhw hefyd yn cynnwys themâu ehangach o wytnwch a dadeni, yn debyg i daith y ffenics.  

Clodrestr

Awdur y Stori ac Adroddwr y Stori | Hanan Issa

Cyfarwyddwr, Cyfansoddwr a Chantores | Elaha Soroor

Cyd-Gyfansoddwr: Adran Rhythm | Joost Hendrickx

Cyd-Gyfansoddwr: Acordion | Josh Middleton

Côr Lleisiol | Oasis One World Choir | Ffion Campbell-Davies | Nazanin Dast-Afkan | Aelod o OOWC

Peiriannydd Sain | Josh Bowles

Cynhyrchydd Llinell | Shayan Ravandoust

Amser dechrau: 8pm

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.