Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Stone Club yn cyflwyno: A Year in a Field

Stone Club yn cyflwyno: A Year in a Field

15 Hydref 2023

Ymunwch â Stone Club ar gyfer y cyntaf o ddau ddangosiad yn Llais, A Year in a Field gan y gwneuthurwr ffilmiau dogfen sydd wedi ennill gwobr BAFTA, Christopher Morris.  

Stori un cae yng Nghernyw wedi’i hadrodd dros un flwyddyn hinsoddol yw A Year in a Field.  

Heuldro’r Gaeaf 2020: gyda’i gamera a’i drybedd, dechreuodd Christopher Morris ffilmio bob dydd mewn cae ger ei gartref. 

Stopiodd ffilmio ar Heuldro’r Gaeaf 2021: y flwyddyn dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig António Guterres oedd y cyfle olaf i’r ddynoliaeth wynebu argyfwng yr hinsawdd.  

Nid gwyddonydd yr hinsawdd sydd wedi creu A Year in a Field. Mae’n ffilm leol, lo-fi, effaith isel – mewn cyferbyniad â’r cynyrchiadau ffilm gorchwyddedig, o’r radd flaenaf, sy’n cynhyrchu carbon ac sy’n hedfan i bedwar ban byd i ddod o hyd i ryfeddodau anghyfarwydd i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd drwy ddisgleirdeb sinematig wedi’i arwain gan dechnoleg – yn debycach i ffuglen wyddonol. 

Mae Christopher Morris yn ein gwahodd ni i arafu, wrth iddo ffilmio am flwyddyn mewn cae yng ngorllewin Cernyw; i ymdrochi ein hunain yn y weithred uniongyrchol dawel yma o lonyddwch, i gymryd anadl a myfyrio ar effeithiau planedol ein bodolaeth fer fel pobl, o dan edrychiad gwyliadwrus y Longstone, monolith hynafol sy’n amlwg yn y dirwedd elfennol yma. 

Amser dechrau: 2.15pm

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ond mae angen tocyn.