Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
The Unthanks All-Dayer

The Unthanks All-Dayer

15 Hydref 2023

Amseroedd dechrau:

12pm: Cymanfa Fawr - Glanfa (am ddim)

2pm: The Bairns gyda Rachel Unthank and the Winterset

4pm: Sesiwn Holi ac Ateb – Neuadd Hoddinott y BBC (am ddim)

6pm: Here's The Tender Coming a Last gyda The Unthanks 

Un diwrnod. Dwy sioe. Tair record.

Dewch i ddathlu ailgyhoeddiad albymau clasurol The Unthanks mewn digwyddiad arbennig sy’n para diwrnod cyfan, ac sy'n cynnwys Cymanfa Fawr amser cinio lle y gallwch chi ymuno, wedi'i dilyn gan gyngherddau, digwyddiadau cyfranogol a sesiwn holi ac ateb gyda Emily Staveley-Taylor o The Staves.

Ar draws dau gyngerdd, bydd band diwygiedig Rachel Unthank and the Winterset yn dod ynghyd am un tro yn unig i berfformio’r albwm The Bairns a enwebwyd am wobr Mercury yn y prynhawn, cyn i The Unthanks berfformio eu halbymau llwyddiannus Here’s The Tender Coming a Last gyda’r nos.

Mae’r digwyddiadau unigryw yma’n dathlu ailgyhoeddi tri albwm a drwyddedwyd yn wreiddiol i EMI ar gytundeb deng mlynedd sydd bellach wedi mynd heibio, sy’n rhoi cyfle i’r Unthanks ryddhau’r tri ar feinyl am y tro cyntaf, yn ogystal â llyfr cryno ddisg 24 tudalen, a’r ddau’n cynnwys rhagair gan gefnogwyr nodedig yn ogystal â chynnwys newydd unigryw.

The Bairns, a enwebwyd am Wobr Gerdd Mercury, oedd yr unig albwm gwerin Prydeinig i ymddangos yn rhestr Albymau’r Degawd gan y Guardian ac Uncut. Here’s The Tender Coming oedd Albwm Gwerin y Flwyddyn Mojo 2009, tra bod Last (2011) wedi’i ddisgrifio gan gylchgrawn Q fel “eu halbwm gorau... hudolus ac uchelgeisiol tu hwnt”, a gan y Sunday Express fel “campwaith cyfareddol, hyfryd o hamddenol.”

Gellir prynu tocynnau ar gyfer perfformiad y prynhawn neu gyda'r nos. Prynwch docynnau i'r ddau i gael gostyngiad drwy'r dydd a bydd yr holl weithgareddau eraill wedi’u cynnwys am ddim!

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.