Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Dada Masilo yn ymarfer

Ailddyfeisio straeon clasurol: tu ôl i’r llen gyda dada masilo

DAWNS GYFOES O BEDWAR BAN BYD

Rydyn ni’n cydweithio â 17 o leoliadau mawr eraill i gyflwyno’r goreuon o’r byd dawns gyfoes, ac nid yw creadigaeth ddiweddaraf Dada Masilo yn eithriad. Mae The Sacrifice, a gyflwynir gan Dance Consortium, yn cael ei berfformio yng Nghymru am y tro cyntaf yng Nghaerdydd fis nesaf.

Ymunwch â ni tu ôl i’r llen i ddysgu mwy am y coreograffydd o Dde Affrica Dada Masilo, a’i gwaith dawns rhyfeddol newydd...

AILDDYFEISIO STRAEON CLASUROL

Cafodd Dada Masilo ei geni a’i magu yn nhreflan Soweto ar gyrion Johannesburg. Dechreuodd ei hyfforddiant dawns pan oedd yn 11 oed fel rhan o Raglen Hyfforddi Ieuenctid The Dance Factory. Mae The Dance Factory wedi’i leoli mewn sied fysiau wedi’i hadnewyddu sydd wedi cael ei throsi’n theatr ac yn stiwdio fawr. Dyma lle mae ei holl weithiau yn cael eu creu, cyn teithio’n rhyngwladol i 27 o wledydd ers 2012.

“There is deep meaning all the way through Dada Masilo’s The Sacrifice that combines a clarity of storytelling with the fascinating combinations of classical ballet and Tswana dance that Masilo has blended seamlessly together in this piece.”

The Reviews Hub, Maryam Philpott, 25/02/23

Mae dehongliadau arloesol Dada o ddawnsiau ballet clasurol – eu hailddychmygu fel eu bod yn siarad am hunaniaeth ddu a ffeministiaeth – wedi denu sylw o bedwar ban byd. Mae’n asio ffurfiau symud gwahanol â dawns gyfoes i greu arddull coreograffaidd unigryw.

DEFODAU, CYMOD A GWAREDIGAETH

Mae The Sacrifice wedi’i ysbrydoli gan The Rite of Spring gan Pina Bausch a sgôr aruthrol Stravinsky. Wrth wraidd y perfformiad mae brwydr epig y dioddefwr aberthol, sy’n cael ei dawnsio gan Masilo ei hun. Mae The Sacrifice yn cwestiynu’r drwg mae bodau dynol yn ei wneud i’w hunain ac yn gofyn beth mae angen i ni ei wneud i newid.

CAST O DDE AFFRICA

Mae cast o 12 o Dde Affrica yn cyflwyno perfformiad bywiog gyda symudiadau rhythmig a mynegol unigryw Tswana, dawns draddodiadol Botswana sy’n aml yn cael ei defnyddio wrth adrodd straeon ac mewn seremonïau iachaol.

CREU SGÔR GWREIDDIOL

Mae The Sacrifice yn cynnwys sgôr gwreiddiol sy’n cael ei berfformio’n fyw ar y llwyfan gan y feiolinydd Leroy Mapholo, yr offerynnwr taro Tlale Makhene, y pianydd Nathi Shongwe a’r canwr opera a chôr gospel Ann Masina fel ffigur mam/duwies bwerus.

Cyflwynir Dada Masilo's The Sacrifice gan Dance Consortium yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 4 + 5 Ebrill 2023