Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Er cof am Yr Arglwydd Rowe-Beddoe

KIRSTEN MCTERNAN

Mae pawb ohonom yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn drist iawn i glywed am farwolaeth yr Arglwydd Rowe-Beddoe, Llywydd Oes Canolfan Mileniwm Cymru.

Mae’r Arglwydd Rowe-Beddoe yn gyfystyr â hanes cynnar Canolfan Mileniwm Cymru, am iddo wasanaethu gyda rhagoriaeth fel Cadeirydd o fis Mawrth 2001 i fis Mai 2010. Ers 2010, parhaodd ei gefnogaeth a’i wasanaeth i bopeth yn ymwneud â Chanolfan Mileniwm Cymru wrth iddo wasanaethu fel Llywydd Oes. Chwaraeodd yr Arglwydd Rowe-Beddoe rôl bwysig yn y gwaith o godi arian ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru, gan sicrhau cefnogaeth breifat a chyhoeddus ar gyfer y cyfnod cyfalaf cychwynnol, a pharhaodd i godi arian yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd a Llywydd Oes. Roedd yn gefnogwr brwd o’r celfyddydau yng Nghymru ac yn eiriolwr drostynt, oherwydd ei frwdfrydedd dros y theatr fel plentyn, ac roedd yn rhan ganolog o sefydlu Canolfan Mileniwm Cymru fel ased diwylliannol i Gymru. Gwnaeth ei weledigaeth sefydlol uchelgeisiol, sef “Dod â goreuon y byd i Gymru, ac arddangos goreuon Cymru i’r byd” osod bar newydd i theatr a diwylliant Cymru.

Dywedodd Mathew Milsom, Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfan Mileniwm Cymru, “Roedd David Rowe-Beddoe yn arloeswr sefydlol i Ganolfan Mileniwm Cymru, ac yn syml iawn, hebddo, ni fyddai’r adeilad yn bodoli. Drwy rym ewyllys a chraffter busnes sylwgar, llwyddodd i sicrhau y byddai Canolfan Mileniwm Cymru yn cael ei hadeiladu ac arweiniodd y sefydliad drwy ei flynyddoedd cynnar heriol. Rhoddodd ei frwdfrydedd dros y theatr a Chymru Ganolfan Mileniwm Cymru ar y llwyfan byd-eang ac mae ar y tîm presennol a chenedlaethau’r dyfodol ddyled mawr iddo. Roedd David wrth ei fodd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, roedd yn Gymro balch iawn ac ef oedd ein llysgennad mwyaf brwdfrydig. Byddwn ni’n dragwyddol ddiolchgar am ei weledigaeth, ymrwymiad a’i egni diarbed. Gwnaethom ni rannu llawer o gyfnodau gwych gyda’n gilydd a chawson ni lawer o hwyl. Roedd David yn rhan annatod o’n teulu a byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr. Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at yr Arglwyddes Madeleine a’i deulu.”