Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Galwad am Gelf Gyhoeddus: Gaeaf

Rydyn ni wrthi’n gwahodd ceisiadau gan unigolion, grwpiau cymunedol a/neu sefydliadau celfyddydol cymunedol yng Nghymru i greu gosodwaith mawr i ddathlu tymor y gaeaf.

Bydd y comisiwn yn cynnwys darn mawr yng nghanol ardal gyhoeddus y Lanfa, arddangosfa yn Ffwrnais, ein caffi-bar newydd, a llwybr. Rydyn ni hefyd yn eich croesawu i ddatblygu, gyda chyllid ychwanegol, gweithgarwch wedi'i raglennu i ennyn diddordeb ymwelwyr yn y gosodwaith – fel gweithdai neu sesiynau stori.

Mae hyn yn rhan o’n Rhaglen Cyllidebu Cyfranogol lle mae’r rhai sy’n gwneud cais yn pleidleisio ar ddarnau ei gilydd. Bydd yr enillydd yn cael swm o arian i dalu am eu hamser a'u costau cynhyrchu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen ein galwad am gelf gyhoeddus yr haf.

Thema’r Prosiect

Dros gyfnod y Nadolig eleni rydyn ni am greu profiad gaeafol hudolus a chynnes i’n holl ymwelwyr.

Rydyn ni am i chi greu rhywbeth swynol a gweledol syfrdanol sy'n dathlu'r hyn mae tymor y Nadolig yn ei olygu i chi. Dylai gyd-fynd â’r thema o olau a hud sy'n ymddangos o dywyllwch y gaeaf. Rydyn ni am i’n hymwelwyr deimlo cynhesrwydd, llawenydd, rhyfeddod a syndod.

Rydyn ni wedi cyhoeddi sawl galwad fel hyn yn y gorffennol, a Naz Syed o Ziba Creative dderbyniodd gomisiwn y gaeaf llynedd gyda’i chreadigaeth hardd Azadi. Fel rhan o’n harddangosfa bresennol Un Blaned, Un Cyfle, mae Otsi a Bubbles yr orangwtans, a ddyluniwyd gan Wild Creation, yn gartrefol iawn yn y Lanfa. 

Beth sy’n bwysig i ni?

Rydyn ni am ddathlu cymunedau ac arddangos celf, gan adrodd straeon am bobl a diwylliannau Cymru. Mae cyfranogiad a diddordeb yn bwysig i ni felly hoffen ni weld sut byddwch chi’n mynd ati i gydweithio ag eraill i greu eich darn o gelf.

Beth hoffem i chi ei gynnwys?

Rydyn ni wrth ein bodd yn annog pobl i archwilio beth yw bod yn greadigol. Fel rhan o’n rhaglen arddangos, hoffem weld sut y gallech gynnwys gweithgarwch celf cyfranogol dros gyfnod y Nadolig (cyllideb ar wahân) i sicrhau bod mwy o bobl yn ymgysylltu â’ch gwaith ac yn cael y profiad gorau ohono.

Rydyn ni hefyd yn mwynhau cynnwys pobl wrth ddylunio a chynllunio arddangosfa, felly os gallwch ddangos sut y byddai modd ychwanegu'r elfen yma, bydden ni wrth ein bodd yn clywed amdano.

Mae'r arddangosfeydd mwyaf llwyddiannus a gynhaliwyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn cynnwys llwybrau sy’n addas ar gyfer plant a’u teuluoedd. Yn ein harddangosfa ‘Un Blaned, Un Cyfle’ dros yr haf, mae gennym ddelweddau hardd gan bobl ifanc a fu’n cymryd rhan mewn sesiynau a gyflwynwyd gan Well Wagon i greu anifeiliaid mewn perygl sydd wedi’u lleoli o amgylch yr adeilad.

Y ffi

Mae gennym £8500 ar gael. Bydd angen i hwn gynnwys adeiladu ac argraffu’r llwybr, ac rydyn ni’n hapus i drafod hyn, ond rydyn ni’n disgwyl i chi wneud yn siŵr bod artistiaid a grwpiau yn cael ffi am ddyluniadau a chreu unrhyw waith.

Sut i wneud cais?

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan artistiaid, unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau celfyddydol.

Er mwyn gwneud cais, bydd angen i chi anfon;

  • disgrifiad sain, fideo neu ysgrifenedig (un ochr A4) o’ch gosodwaith
  • enghreifftiau o waith celf blaenorol
  • syniad am lwybr cyfranogol i gyd-fynd â’ch gwaith celf / y thema
  • osyniad am weithdy cyfranogol i gyd-fynd â’ch gwaith celf / y thema
  • dolen at eich proffiliau cyfryngau cymdeithasol os oes gennych rai, neu wybodaeth am y gwaith rydych chi'n ei wneud  

Bydd hwn yn cael ei rannu gydag ymgeiswyr eraill, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn hapus gyda hyn neu anfonwch neges aton ni i drafod.

Dyddiad cau: 28 Medi 2023

Os hoffech drafod ymhellach neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Gemma neu Ffion drwy e-bostio cymuned@wmc.org.uk