Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Canllaw Archebu ar gyfer Hamilton

Dyma ganllaw ar gyfer cael eich tocynnau i Hamilton a fydd yn ein Theatr Donald Gordon 26 Tachwedd 2024 – 25 Ionawr 2025.

Bydd tocynnau yn mynd ar werth i’r cyhoedd am 10am ar 8 Medi. Os hoffech chi fanteisio ar gyfnod archebu a blaenoriaeth a dewis eich sedd, edrychwch ar ein hopsiynau aelodaeth. Yn ogystal â bod ymhlith y cyntaf i archebu, mae aelodau hefyd yn cael gostyngiad o 20% yn ein caffis a’n bariau, cynigion arbennig ar docynnau a diweddariadau rheolaidd drwy e-bost. Gall aelodau Partner Awen, Partner a Ffrind+ hefyd fwynhau ein lolfa i aelodau sydd newydd gael ei hadnewyddu, Copr.   

GAIR I GALL

  1. I arbed amser, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein gyda ni, a chofiwch fewngofnodi cyn prynu tocynnau.
  2. Bydd ystafell aros ar waith 45 munud cyn i’r sioe fynd ar werth. Pan fydd y system giwio yn dechrau, caiff lle ar hap yn y ciw ei neilltuo i bob cwsmer sydd yn yr ystafell aros. Ar ôl i’r ciwio ddechrau, bydd cwsmeriaid yn ymuno â’r ciw yn y drefn maen nhw’n ymweld â’r wefan.
  3. I wneud y broses archebu mor syml â phosibl i bawb, ni fyddwch yn gallu dewis eich sedd pan fyddwch chi’n archebu ar y diwrnod mae’r tocynnau’n mynd ar werth i’r cyhoedd. Byddwch chi’n gallu dewis ardal yn ôl pris y tocynnau, ac yna bydd y wefan yn dewis y seddi gorau sydd ar gael i chi yn awtomatig er mwyn rhoi’r cyfle gorau i bawb brynu tocynnau cyn iddyn nhw werthu allan. Gallwch chi weld cynllun seddi ein Theatr Donald Gordon yma.  
  4. Os oes gennych ofyniad penodol o ran sedd, fel bod angen gofod cadair olwyn neu sedd ar ben rhes, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau pan na fydd y swyddogaeth ‘Dewiswch eich sedd’ yn weithredol ar-lein, a byddwn nhw’n gallu eich helpu chi gyda’ch archeb. Os oes gennych chi gerdyn Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ymlaen llaw i sicrhau ei fod wedi’i gofrestru ar eich cyfrif fel y byddwch chi’n gallu gweld y prisiau Hynt ar-lein wrth archebu.
  5. Unwaith y byddwch chi wedi archebu, byddwch chi’n cael e-bost cadarnhau gyda’ch e-docynnau, y byddwch chi’n gallu eu hychwanegu at Apple Wallet neu Google Wallet. Byddwch chi hefyd yn gallu gweld eich archeb yn eich cyfrif ar-lein. Byddwch chi’n gallu newid eich seddi neu gyfnewid eich tocynnau ar-lein i berfformiad arall o Hamilton hyd at 24 awr cyn y perfformiad y gwnaethoch ei archebu, yn amodol ar argaeledd. Darllenwch ein blog i weld sut i wneud hyn. Nodwch mai dim ond yr archebwr gwreiddiol all wneud newidiadau i unrhyw archeb.

Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch wrth archebu, defnyddiwch ein gwe-sgwrs drwy ein hafan neu e-bostiwch tocynnau@wmc.org.uk gan gynnwys eich enw a’ch rhif archeb (os oes un gennych).

Pob lwc!

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw canllaw oed Hamilton?

Gan fod Hamilton yn cynnwys rhywfaint o iaith gref, mae’r sioe yn briodol ar gyfer pobl 10+ oed. Rhaid bod gan bawb, ni waeth beth yw eu hoedran, eu tocyn eu hunain i ddod i mewn i’r theatr. Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni ac eistedd nesaf at ddeiliad tocyn sydd o leiaf 18 oed. Ni chaniateir plant o dan 3 oed.

Beth yw hyd y perfformiad?

Mae Hamilton tua 2 awr a 45 munud o hyd, gan gynnwys egwyl.

Oes unrhyw berfformiadau hygyrch?

Byddwn ni’n cynnig perfformiadau â chapsiynau, wedi’u sain ddisgrifio ac wedi'u dehongli gydag Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

BSL: 2.30pm dydd Iau 5 Rhagfyr 2024 a 7.30pm dydd Gwener 17 Ionawr 2025

Capsiynau: 7.30pm dydd Gwener 6 Rhagfyr 2024 a 2.30pm dydd Iau 16 Ionawr 2025

Sain Ddisgrifiad: 2.30pm dydd Iau 19 Rhagfyr 2024 a 7.30pm dydd Gwener 24 Ionawr 2025

Oes unrhyw rybuddion am y sioe neu unrhyw effeithiau arbennig?

Mae Hamilton yn cynnwys iaith gref, goleuadau strôb, effeithiau mwg a niwl theatraidd, pyrotechneg a chleciau.

Faint o docynnau sydd eu hangen i wneud archeb grŵp?

Mae archebion grŵp ar gyfer 10+ o bobl. Bydd angen i chi gofrestru fel archebwr grŵp drwy ein gwe-sgwrs neu drwy e-bostio gwerthiant.grwpiau@wmc.org.uk o leiaf 48 awr cyn bydd tocynnau’n mynd ar werth i grwpiau (6 Medi). Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch chi’n gallu archebu tocynnau grŵp ar-lein o’r dyddiad yma. Caiff eich tocynnau eu cadw tan y dyddiad talu i grwpiau, sef 13 Mai 2024. Bydd hyn hefyd wedi’i nodi yn eich e-bost cadarnhau. Unwaith y bydd y dyddiad yma wedi mynd heibio caiff y seddi eu rhyddhau i’r cyhoedd ond peidiwch â phoeni, byddwch chi’n cael e-byst rheolaidd i’ch atgoffa. Unwaith y byddwch chi wedi talu am eich tocynnau, ni fydd yn bosibl cael ad-daliad. Darllenwch fwy am archebion grŵp.  

Os oes gennych nifer o ddeiliaid cerdyn Hynt yn eich grŵp, neu os ydych chi’n gwneud archeb ysgol (mae prisiau ysgolion ar gael ar gyfer perfformiadau penodol), cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau yn uniongyrchol am na fydd y mathau yma o archeb ar gael ar-lein.

Ydych chi’n cynnig yswiriant archebu rhag ofn y bydd rhywbeth yn mynd o’i le?

Rydyn ni’n cynnig yswiriant diogelu ad-daliad drwy ddarparwr trydydd parti, Booking Protect. Rhaid ychwanegu hyn at eich basged wrth archebu. Darllenwch eu telerau ac amodau i weld beth sydd wedi’i gwmpasu.

Ble alla i barcio?

Gallwch ychwanegu parcio gostyngedig yn Q-Park pan fyddwch chi’n cwblhau eich archeb, neu yn hwyrach yn eich cyfrif ar-lein. Rhaid prynu hyn cyn mynd i mewn i’r maes parcio i fanteisio ar y prisiau is.

Mae hefyd gennym nifer cyfyngedig o leoedd parcio y gellir eu rhagarchebu ar ein safle ar gyfer ymwelwyr sy’n ddeiliaid bathodyn glas, am dâl o £5. Rhaid rhagarchebu lle pan fyddwch chi’n prynu eich tocynnau, a bydd angen rhif eich bathodyn glas i archebu a dod i mewn i’r safle.

Pa fariau a chaffis sydd ar gael yng Nghanolfan Mileniwm Cymru?

Dechreuwch eich ymweliad yn y ffordd iawn drwy ragarchebu diodydd i’w mwynhau cyn y sioe yn Ffwrnais, ein bar-caffi, wrth brynu eich tocynnau. Bydd angen i chi ddangos eich cod QR wrth un o’r tiliau a chaiff eich diodydd eu paratoi i chi.

Gallwch chi hefyd ragarchebu eich diodydd i’r egwyl i osgoi’r ciwiau prysur wrth fariau’r theatr – bydd y cadarnhad o’ch archeb yn dweud wrthoch chi ble i’w casglu. Nodwch mai dim ond wrth gwblhau eich archeb y gellir ychwanegu’r opsiynau yma, ac nid yn hwyrach.

Ble alla i aros gerllaw?

Beth am wneud eich ymweliad yn achlysur ac aros nos? Future Inn Bae Caerdydd yw ein gwesty pedair seren ddewisol yng Nghaerdydd. Maen nhw’n cynnig parcio a Wi-Fi rhad ac am ddim ac maen nhw ond 10 munud i ffwrdd ar droed. Gorau oll, maen nhw’n cynnig gostyngiad o 20% i’n cwsmeriaid – byddwch chi’n cael cod gostyngiad yn eich e-bost sy’n cadarnhau eich tocynnau.