Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

HARD CÔR

Grŵp lleisiol i bobl ifanc yw Hard Côr, sy’n dod â phobl 16–25 oed sy’n byw yng Nghaerdydd ynghyd i ganu, rapio, bît-bocsio a chreu cerddoriaeth gyda’i gilydd. 

Caiff aelodau’r grŵp eu dylanwadu gan ystod o arddulliau cyfoes, gan gynnwys hip-hop, grime, rap a RnB, ac maen nhw’n dathlu byd cerddoriaeth arloesol Cymru. 

Diben y grŵp yw ehangu cyfleoedd i wneuthurwyr cerddoriaeth ifanc a thalentog o Gymru sydd am ganu a lleisio mewn arddulliau annhraddodiadol ar y lefel uchaf, gan eu galluogi i weithio gyda rhai o ymarferwyr cerddorol mwyaf gwefreiddiol y wlad.  

Gwnaeth tri hwylusydd a oedd yn arbenigo mewn meysydd gwahanol arwain a chefnogi’r prosiect cyntaf yma, sef:

  • Dionne Bennett – canwr soul (canu)
  • Tumi Williams – MC, awdur geiriau a Chydymaith Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (‘mcing’)
  • Matthew Hann – bîtbocsiwr a hwylusydd celfyddydau (bîtbocsio)

Mae Hard Côr yn brosiect ar y cyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Rydyn ni’n gobeithio parhau gyda Hard Côr a llwyfannu mwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol. Nes y gallwn gadarnhau’r grŵp nesaf, anfonwch unrhyw gwestiynau a/neu eich diddordeb i education@wmc.org.uk.