Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Hard Côr 2023

Mae Hard Côr, sy’n brosiect ar y cyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, yn dod â cherddorion rhwng 18 a 25 oed at ei gilydd i ffurfio grŵp lleisiol unigryw.  

Mae cyfranogwyr yn dod ynghyd i archwilio amrywiaeth o arddulliau a thechnegau cerddorol, gan uno canu corawl â genres fel grime, hip hop a RnB a datblygu ystod o sgiliau gan gynnwys lleisio, ‘MCing’, rapio a bîtbocsio.  

Mae’r prosiect yn cynnig hyfforddiant a chyfle i greu cerddoriaeth gydag ymarferwyr a cherddorion gorau’r wlad, gan arwain at ddigwyddiad arddangos talent i ddathlu byd cerddoriaeth Cymru sy’n gynyddol gyffrous ac arloesol.  

Gwyliwch y fideo hwn i ddarganfod mwy.

Yr hwyluswyr sy’n gweithio ar Hard Côr eleni yw: 

  • Molara – canwr, cyfansoddwr caneuon ac ymarferydd creadigol 
  • Faith Nelson – canwr soul (canu) 
  • Tumi Williams – MC ac awdur geiriau (‘mcing’) 
  • Matthew Hann – bîtbocsiwr a hwylusydd y celfyddydau (bîtbocsio) 

Dosbarthiadau meistr gyda hwyluswyr talentog fel Dionne Bennett (canwr/cyfansoddwr).  

DIWRNOD BLAS AR HARD CÔR

Ymunwch â ni ar gyfer ein diwrnod agored ddydd Sul 9 Gorffennaf 2023 am 2pm yn Cabaret. Dewch i gael blas ar brosiect Hard Côr, cymryd rhan mewn gweithdai rhyfeddol a chydweithio â cherddorion/artistiaid o’r un meddylfryd. Archebwch le ar gyfer ein diwrnod blasu. 

I gael rhagor o wybodaeth e-bost nyaw@nyaw.org.uk neu education@wmc.org.uk.

Prosiect ar y cyd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw Hard Côr.