Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Iftar yng Nghanolfan Mileniwm Cymru: Myfyrdod

Iftar yw’r pryd o fwyd nos i dorri ympryd yn ystod Ramadan i Fwslimiaid. Ysgrifennodd Swyddog Allgymorth a Hyfforddi Radio Platfform Bablu Shikdar am ei brofiad o ddod i’n digwyddiad Iftar cyntaf erioed, a gynhaliwyd yn gynharach y mis yma. 

Eiliad eiconig i’w chofio. Doedd tyfu i fyny fel Mwslim ddim yn hawdd i mi, yn enwedig yn ystod Ramadan. Yn ystod fy ngyrfa, yn aml dyw cyflogwyr ddim wedi cymryd y mis o ddifrif (nid fy mod i’n disgwyl iddyn nhw wneud) a byddai’n rhaid i mi weddïo yn ystod fy egwylion mewn storfa yn rhywle.

Roedd Iftar yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn golygu cymaint i fi a chynifer o Fwslimiaid yng Nghaerdydd. Roedd gallu bod yn fy ngweithle a chael gofod i ymarfer ein ffydd, treulio’r noson gyda’n ffrindiau a’n teuluoedd, ac arddangos yr arweinwyr a phobl greadigol Fwslimaidd yn y diwydiant, yn anhygoel i weld. 

Roedd hi’n brydferth, o’r sioe oleuadau, yr ardal i blant, y seddi ar y llawr, addurniad y Glanfa, y bwyd, a’r byrddau ac addurniadau bach i fynegi beth mae Ramadan yn ei olygu i bobl. Y gofod i weddïo yn y Weston ac adrodd yr Adhan.

Roeddwn i’n teimlo mor falch o fod yn rhan o’r digwyddiad cyfan. Mae’r ffaith bod Canolfan Mileniwm Cymru wedi ein galluogi ni i weld pobl o’r gymuned leol, Mwslimiaid a phobl nad ydyn nhw’n Fwslimiaid, yn dod i ddathlu a dysgu am y grefydd wedi gwneud i mi deimlo mor ddiolchgar ac yn eithaf emosiynol i gael y gofod yma i’w rannu â phobl sy’n agos aton ni. 

Cynhaliwyd y noson bwysig hon mewn cydweithrediad â Now In A Minute, Boss & Brew Academy ac ein hydweithwyr a ffrindiau Mwslimaidd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.