Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
A puppet tiger

Life of Pi: Y Tîm Tu ôl i’r Teigr

Y pypedwyr Romina Hytten ac Akash Heer sy’n esbonio sut mae eu tîm yn dod â’r teigr Bengal Brenhinol, Richard Parker, yn fyw yn Life of Pi.

Mae’r ffenomen theatrig pum seren sydd wedi ennill pum Gwobr Olivier, gan gynnwys y Ddrama Newydd Orau, a thair Gwobr Tony, yn dod i Gaerdydd ym mis Hydref fel rhan o’i thaith gyntaf drwy wledydd Prydain!

YN GYNTAF, SUT YDYCH CHI’N CAEL SWYDD YN CHWARAE RHAN TEIGR?!

Romina (calon a hanner ôl y teigr): Mae pypedwaith yn anhygoel gan eich bod chi’n cael chwarae’r rhannau mwyaf rhyfedd. Dysgais i bypedwaith yn Theatr Ieuenctid Gŵyl Chichester pan o’n i’n 16 oed, er mai 11 oed o’n i’n creu fy mhyped cyntaf, a theigr oedd hwnnw, sy’n ddoniol – dw i’n cael fy nheipgastio! Wnes i ddim hyfforddi yn yr ysgol ddrama, ond llwyddais i ddysgu tra ro’n i’n gweithio a dw i wedi cael fy ysbrydoli gan bawb dw i wedi gweithio gyda nhw yn ystod y deng mlynedd diwethaf. A dyma fi gyda Life of Pi.

Akash (pen y teigr): Pan ges i’r rhan, ro’n i’n gyffrous ond hefyd roedd yn sioc gan mai actor ydw i. Roedd symudiad yn rhan bwysig o fy hyfforddiant, ond actio yw popeth dw i wedi’i wneud hyd yma. Fe wnes i glyweliad ar gyfer rhai o gymeriadau Life of Pi a chymryd rhan mewn gweithdy symud, ac yna fe wnaethon nhw fy ngwahodd i’n ôl am glyweliad pypedwaith. Ces i dipyn o syndod ond roedden nhw wir yn hoffi fy symudiad. Roedd y clyweliad yn gymaint o hwyl. Roedd gweld yr angerdd oedd gan bob un ohonyn nhw am y cynhyrchiad yma’n ei wneud yn fwy cyffrous. Fel arfer byddwch chi’n dioddef nerfau yn ystod clyweliad ond roedd yn anrhydedd i fi gael bod yn y lle yma a dysgu gwahanol dechnegau. Ro’n i’n gadael y clyweliadau yn teimlo’n dda ac yn awyddus i barhau. Roedd yr egni yn yr ystafell yn drydanol. Pan ges i’r rhan ro’n i ar ben fy nigon.

YDY DYSGU RHAN FEL YMA’N DEBYG I CHWARAE OFFERYN CERDDOROL YN YR YSTYR BOD ANGEN I CHI FEISTROLI’R NODAU AR Y SGÔR CYN YCHWANEGU EICH DEHONGLIAD EICH HUNAN?

Romina: Ydy. Mae’n waith hynod dechnegol pan fyddwch chi’n codi pyped am y tro cyntaf. Mae’n rhaid i chi ddysgu symud mewn ffyrdd penodol. Mae hon yn sioe gorfforol iawn ac mae’n rhaid i chi hyfforddi’ch corff i ymdopi. Mae’n rhaid i chi ddysgu i anadlu a bod fel y teigr. Ar ôl dysgu hynny i gyd ac mae eich ymennydd yn ffrwydro, rydych chi’n cyrraedd pwynt pan rydych chi’n adnabod eich cyd-bypedwyr mor dda fel eich bod yn gallu darllen eu meddyliau. Rydyn ni’n gallu byrfyfyrio ar y llwyfan ac mae hynny mor brydferth. Dyna pryd mae’r teigr yn dod yn fyw.

Akash: Maen nhw wedi rhoi’r strwythur i ni, ond maen nhw’n agored yn barhaus i ni archwilio a darganfod. Ar ôl sicrhau’r fformat, rydyn ni’n gallu archwilio. Dw i’n meddwl sut gymeriad fyddai’r teigr pe bai’n ddynol. Mae gen i restr chwarae Spotify ar gyfer fy nheigr hyd yn oed. Mae cerddoriaeth yn rhan mor enfawr ohona i a dw i'n hoffi creu cerddoriaeth sy’n gweddu i fy nghymeriad.

PA MOR BWYSIG YW GWEITHIO FEL TÎM?

Romina: Mae pob pypedwr yn dod ag egni gwahanol ac mae’n rhaid i chi ddilyn hynny. Fe wnes i’r sioe am 15 mis yn Llundain ac roedden ni’n dal i ddod o hyd i bethau newydd yn ystod yr wythnos olaf un. Rydyn ni’n dal i ddysgu gan ein gilydd ac mae’r sioe yn dod yn gyfoethocach. Mae gennym system bob yn ail oherwydd byddai’n rhy drwm yn gorfforol i chwarae rhan y teigr bob nos, felly rydyn ni’n cael gwylio ein gilydd. Pan fyddwch chi tu mewn i’r pyped, dydych chi ddim yn gwybod a yw’r hyn rydych chi’n ei wneud yn edrych yn dda felly mae’n rhaid i chi ddibynnu ar eich cyd-bypedwyr i ddweud wrthoch chi. Mae’n gydweithredol iawn ac yn ffordd hyfryd o weithio.

Akash: Mae’n dri chorff gwahanol ond rydych chi’n cydamseru ac yn cysylltu drwy anadl. Pan fydd yr anadl yn curo drwy’r galon a’r tu cefn, dyna pryd rydw i’n teimlo’n wirioneddol gysylltiedig. Rydych chi’n teimlo eich bod chi wedi cysylltu â dau enaid arall a chi sy’n gyfrifol am y bwystfil yma. Rydych chi’n cerdded ymlaen, rydych chi’n oedi, rydych chi’n ymateb, rydych chi’n ymosod a phan fydd popeth wedi’i gydamseru mae’n deimlad mor gyffrous.

ALLWCH CHI DDOD Â’CH PERSONOLIAETH EICH HUNAN I’R PERFFORMIAD?

Romina:Mae’n gydweithredol iawn felly mae llawer o fy syniadau i wedi mynd i mewn iddo. Mae yna driciau bach rydych chi wedi gallu meddwl amdanyn nhw, felly os byddwch chi’n camu oddi ar y gwely mewn ffordd benodol mae’n dod i gael ei adnabod fel “symudiad Romina” neu pwy bynnag yw’r pypedwr. Rydyn ni’n actio rhan Richard Parker, felly rydych chi’n dod â’ch emosiynau eich hunan i bob golygfa. Fel y galon, efallai y bydda i’n ymateb yn wahanol i un o’r pypedwyr eraill yn yr eiliad honno. Mae yna egni unigol.

Akash: Mae gan bob tîm deigr gwahanol. Oes, mae gennym yr un golygfeydd, bwriadau ac amcanion, ond mae pob teigr yn wahanol. Dw i’n deigr sy’n fwy dominyddol, yn fwy ffyrnig. Bydd gennych deigr arall sy’n fwy gofalus a sylwgar. Dw i mor gyffrous i weld sut mae fy nheigr yn datblygu dros gyfnod o fis, tri mis a blwyddyn. Maen nhw’n ein hannog i archwilio ac mae’n braf gwybod y gallwch chi ychwanegu mwy o enaid i’ch teigr.

YDY HI’N ANODD BOD YN Y GOLWG AC ETO PEIDIO Â CHAEL EICH GWELD?

Romina: Ydy. Mae yna gyfres o egwyddorion pypedwaith sy’n ein galluogi i ddiflannu. Pan fyddwch chi’n chwarae rhan teigr, rydych chi’n ffyrnig iawn ac rydych chi’n gwneud ystumiau rhuo mawr. Dydw i ddim yn rhoi’r egni yna yn fy nghorff na fy wyneb ond yn y pyped yn lle. Dw i’n gweld hynny’n rhywbeth myfyriol. Rydych chi’n teimlo popeth ond rydych chi’n gyrru’r egni yna i ffwrdd. Mae’n rhaid i chi fod â dim ego i fynd ar lwyfan a dweud, “Peidiwch ag edrych arna i, edrychwch ar hwn”. Hefyd, allwch chi ddim edrych yn dda oni bai bod eich tîm cyfan yn edrych yn dda felly mae’n rhaid i chi fod eisiau bod yn deigr fel rhan o’r tîm. Pan fyddwch chi mewn cydamseriad llwyr, dyna pryd rydych chi’n diflannu a bydd pobl ond yn gweld teigr ar y llwyfan.

Akash: Yn yr wythnos gyntaf o ymarferion ro’n i’n gwisgo fy nghap fel actor ac roedd yn rhaid i fi weithio ar gysylltu â’r pyped, felly roedd y pyped yn fwy dominyddol na fi. Dw i’n 6 troedfedd 1 modfedd o daldra a phan dw i ar y llwyfan rydych chi’n fy ngweld. Dw i wedi dysgu cymaint am beidio â chroesi’r llinell: y pyped yw’r ffigwr amlycaf ac mae’r tri phypedwr yn rhan ohono. Mae’n brofiad mor rymusol. Pan fyddwch chi’n caniatáu i chi’ch hunan fod yn agored ac i ildio i’r pyped, gall reoli eich emosiynau. Mae’n gwneud i fi deimlo’n gryf, yn sefydlog ac yn emosiynol – dw i’n teimlo fel teigr.

OES UNRHYW LEFYDD RYDYCH CHI’N EDRYCH YMLAEN YN BENODOL I FYND IDDYN NHW AR Y DAITH?

Akash: Cefais fy ngeni ar Ynys Môn a gadael yno yn 1993 pan o’n i’n eitha ifanc, ond yn ddiweddar rydyn ni wedi dechrau mynd yn ôl yno bob blwyddyn. Mae’n daith hiraethus a braf mynd ’nôl i Gymru. Symudon ni i Ganolbarth Lloegr, Wolverhampton, lle mae gen i ffrindiau a theulu. Felly bydd Cymru, Wolverhampton a Birmingham yn bwysig i fi oherwydd mae gen i lawer o gysylltiadau yno.