Mae ein gŵyl gelfyddydau ryngwladol yn dychwelyd yr wythnos yma am chwe diwrnod o gerddoriaeth fyw, dangosiadau a phrofiadau ymdrochol i'w mwynhau.
Bydd yr ŵyl yn agor gyda dychweliad y Wobr Gerddoriaeth Gymreig – dathliad o’r albymau gorau gan artistiaid o Gymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Hefyd, bydd perfformiad rhad ac am ddim o’r grŵp lleisiol hip hop Hard Côr cyn dechrau’r seremoni.
Mae amserlenni pob dydd isod er mwyn i chi ddechrau cynllunio eich gŵyl. Mae tocynnau olaf y digwyddiadau ar werth nawr.