Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Author Neil Gaiman stood smiling in front of a poster for The Ocean at the End of the Lane

Sesiwn holi ac ateb gyda Neil Gaiman

Mae addasiad y National Theatre o’r llyfr arobryn The Ocean at the End of the Lane yn cyrraedd o 30 Mai.

Mae’r awdur Neil Gaiman yn ateb ein cwestiynau am yr antur gyffrous yma sy’n llawn ffantasi, myth a chyfeillgarwch, ac yn rhannu rhai atgofion hoffus iawn am Gaerdydd.

MAE’R LLYFR YN SEILIEDIG YN FRAS AR EICH PLENTYNDOD. BETH OEDD Y MAN CYCHWYN?

Dechreuodd y llyfr gyda fi yn trio esbonio i fy ngwraig ble cefais fy magu a sut le oedd y byd hwnnw. Roedd hi’n gallu mynd â fi i gartref ei phlentyndod achos doedd dim wedi newid, ond allwn i ddim mynd â hi i le cefais i fy magu [yn Nwyrain Grimstead] oherwydd cafodd y lle ei ddymchwel amser hir yn ôl; roedd llawer o ystadau tai bach taclus hyfryd yn gorchuddio’r gerddi a’r caeau a’r lonydd. Felly i fi roedd yn ymgais i geisio ysgogi gorffennol ac ymdeimlad o le.

Un elfen ddiddorol ohono i fi hefyd oedd gwnes i sylweddoli nad oeddwn i wedi clywed acen Sussex fy mhlentyndod ers amser hir iawn. Roedd Mrs Weller yn dod i lanhau unwaith yr wythnos ac roedd Mr Weller yn dod i wneud y gerddi. Roedden nhw siŵr o fod yn eu 80au ac roedd ganddyn nhw acenion Sussex go iawn – bron fel grwndi De-orllewin Lloegr. Penderfynais i ysgrifennu nofel gyda’r acen honno ynddo hefyd.

SUT WNAETHOCH CHI GREU’R HEMPSTOCKS?

Dywedodd fy mam wrtha i – ar gam, darganfyddais i wrth ymchwilio – fod y fferm hanner ffordd i lawr ein lôn yn Llyfr Dydd y Farn. A dyna oedd dechrau’r Hempstocks yn fy meddwl; pwy oedden nhw a beth oeddwn i am ei wneud gyda nhw.

Keir Ogilvy (Boy), Finty Williams (Old Mrs Hempstock), Millie Hikasa (Lettie Hempstock) © Brinkhoff-Moegenburg

YDY YSGRIFENNU AM DEULU YN DDIDDOROL IAWN I CHI?

Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi gallu osgoi ysgrifennu am deulu, hyd yn oed pan oeddwn i’n meddwl fy mod i’n ysgrifennu am rywbeth arall. P’un a yw hynny’n deulu biolegol neu’r teulu rydyn ni’n ei greu. Yn y nofel creais i deulu rhannol-ffuglennol i fy hun, ac yn y ddrama mae un cam ymhellach i ffwrdd o fy nheulu, ac wrth edrych yn ôl dwi’n meddwl bod hynny’n iachus iawn! Ond fi yw’r bachgen, yn bendant.

CAFODD Y DDRAMA ADOLYGIADAU ANHYGOEL PAN AGORODD. HEB ROI UNRHYW BETH I FFWRDD, BETH YW EICH HOFF RAN?

Mae rhywbeth rhyfeddol am yr eiliad maen nhw’n mynd i mewn i’r môr. Mae hynny’n fy nghyfareddu yn llwyr. Ac rydych chi’n mynd i weld gwyrthiau wedi’u creu allan o ddarnau o sbwriel a hen fagiau plastig ac adar hunllefus tu hwnt i’ch dychymyg. Dwi’n cael sioc o hyd bob tro rwy’n gwylio.

Keir Ogilvy (Boy), Millie Hikasa (Lettie Hempstock), Kemi-Bo Jacobs (Ginnie Hempstock) © Brinkhoff-Moegenburg

A YW’N WIR BOD Y DDRAMA WEDI EICH CYFFWRDD GYMAINT PAN WNAETHOCH CHI EI GWELD YN YSTOD YMARFERION Y GWNAETHOCH CHI GRIO?

Gwelais i’r perfformiad llawn cyntaf. Tua deg munud cyn y diwedd roedd dagrau’n llifo i lawr fy wyneb. Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n chwithig iawn ac roeddwn i’n ceisio eu fflicio i ffwrdd yn ochelgar.

RYDYCH CHI’N DISGRIFIO EICH HUN FEL RHYWUN SY’N ADRODD STRAEON. BETH WNAETH EICH YSBRYDOLI I FOD YN AWDUR?

Dwi ddim yn siŵr bod pob awdur yn berfformiwr rhwystredig, ond i fi roedd llawenydd mewn gallu bod y cymeriadau i gyd. Fel awdur rydych chi’n gallu gwneud hynny. Fel plentyn oedd yn dwli ar lyfrau, allwn ni ddim meddwl am ddim byd gwell na rhoi’r un pleser i bobl â gefais i.

Laurie Ogden (Sis), Charlie Brooks (Ursula), Trevor Fox (Dad) © Pamela Raith

MAE’R DDRAMA WEDI BOD AR DAITH ERS MIS RHAGFYR 2022. A OES UNRHYW LEOLIADAU AR Y DAITH SY’N BERTHNASOL IAWN I CHI?

Mae gen i atgofion hoffus iawn o Gaerdydd achos aethon ni yno i wneud Doctor Who. Roedd wythnos yn 2010 pan es i i Gaerdydd ac roedd un diwrnod yn arbennig yn teimlo bron yn hanesyddol: treuliais i’r dydd ar set Doctor Who yn gwylio (fy mhennod) ‘The Doctor’s Wife’ yn cael ei saethu ac yna yn y nos gwnes i gwrdd â Terry Pratchett mewn bwyty Japaneaidd bach. Dyna pryd y cytunon ni y bydden ni’n gwneud cyfres deledu o Good Omens. Am ddiwrnod!

Neil Gaiman © Piers Allardyce

Mae Neil Gaiman yn adnabyddus am ei nofelau graffig, gan gynnwys y gyfres The Sandman (cyfres Netflix newydd fawr a gafodd ei gwylio am dros 198 miliwn o oriau gan gynulleidfaoedd ledled y byd yn y 10 diwrnod cyntaf); ei nofelau i oedolion a phlant gan gynnwys Stardust, Coraline a The Graveyard Book; a nifer o brosiectau ffilm a theledu gan gynnwys Good Omens ac Anansi Boys.

Enillodd The Ocean at the End of the Lane deitl Llyfr y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Cenedlaethol 2013 ac mae wedi gwerthu dros 1.2 miliwn o gopïau ledled y byd. Mae’r addasiad llwyfan mawr cyntaf o’i waith yn uno hud â chof mewn camp fawr o adrodd straeon sy’n mynd â chynulleidfaoedd ar daith epig i blentyndod angof a’r tywyllwch sy’n llechu gerllaw.

Dewch o hyd i docynnau The Ocean at the End of the Lane 30 Mai – 3 Mehefin 2023