Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Adnodd rhad ac am ddim i ysgolion yw Gwaed Oer – gêm stori dditectif gydweithredol wreiddiol lle mae'r cyfranogwyr yn chwarae ymchwilwyr i hen achosion.

Gweithdy meddwl yn feirniadol yw'r adnodd, wedi'i gynhyrchu gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Yello Brick, sydd wedi'i anelu at bobl ifanc 14–16 oed ac sy'n cwmpasu themâu fel rhywiaeth a hunaniaeth rhywedd.

Dan arweiniad Mabli Quinn, ymchwilydd preifat ifanc, eich her yw adolygu tystiolaeth ymchwiliad troseddol diddorol sydd wedi bod ar agor ers amser hir heb ei ddatrys: Llofruddiaeth Cherry Gadwall.

Yn llawn cliwiau tameidiog a rhai nad ydyn nhw’n arwain i unman ac wedi’i guddio dan len o ddirgelwch, cafodd yr achos ei gladdu a’i anghofio… tan nawr. A fyddwch chi’n gallu helpu Mabli i ddatrys yr achos?

"It was lovely to have such high-quality resources to try out and the pupils have had very positive outcomes from playing the game."

Ysgol Uwchradd Pontypridd

Mae’r gêm wedi’i chreu er mwyn i athrawon ei threfnu yn hawdd mewn ystafell ddosbarth drwy naill ai Powerpoint neu Keynote – y cyfan sydd ei angen arnoch yw pennau ysgrifennu, papur, amlenni a chyfrifiadur addas i redeg y gêm.