Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Yn galw ar artistiaid ifanc – taniwch eich creadigrwydd gyda’n cyrsiau a gweithdai am ddim.   

Ydych chi’n angerddol dros radio, am roi cynnig ar greu ffilmiau, awydd actio neu am weithio yn y maes digidol? Beth bynnag y maes creadigol rydyn ni yma i'ch helpu!  

Arweinir ein cyrsiau creadigol gan arbenigwyr y diwydiant ac arweinwyr y sector, megis Promo Cymru a Welsh Games Academy. Mae’r cyrsiau’n rhoi mynediad at sgiliau arbennig a chyngor heb ei ail. Ac yn fwy na hynny, mae nifer o’r cyrsiau yn cynnig achrediad sy’n cael ei gydnabod yn broffesiynol, gan roi hwb i'ch siwrnai greadigol. 

Ydych chi am glywed gan y rheiny sydd wedi profi ein cyrsiau? Mae cannoedd o bobl ifanc 11 – 25 oed wedi datblygu sgiliau creadigol, cael profiadau ymarferol ac wedi datblygu cysylltiadau a chyfleoedd creadigol 

Gwyliwch ein ffilm i ddarganfod mwy.

CYRSIAU AR Y GWEILL 

Mae niferoedd yn gyfyngedig i 12 cyfranogwr, felly peidiwch ag oedi, archebwch le am ddim: 

Gwiriwch yn ôl yn fuan.

Os yw'r cwrs wedi gwerthu allan, ychwanegwch eich manylion at ein rhestr aros a byddwn ni mewn cysylltiad os bydd lle ar gael.

Byddwch yn mynychu ein cyrsiau mewn ystafelloedd diogel â’u hadeiladwyd yn bwrpasol, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a’n chwaer orsaf yn Y Porth, neu ar-lein drwy gyfrwng ystafelloedd hyfforddi Zoom.

Cynhelir y rhaglen ar hyd y flwyddyn, a chyn hyn mae pynciau wedi cynnwys ysgrifennu creadigol, sgrin a ffilm, graffiti, argraffu â sgrin, creu nofel graffig, cynhyrchu radio, gemau chwarae rôl, theatr ieuenctid, breg-ddawnsio, hip-hop a chynllunio gwisgoedd. Cynhelir nifer fechan o’r cyrsiau gyda thiwtoriaid a gweithwyr proffesiynol sy’n siarad Cymraeg.

I BWY MAE’R CYRSIAU LLAIS CREADIGOL?  

Mae ein cyrsiau ar gael i unrhyw un 11–25 oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd ar lefel sylfaenol. Mae’r cyrsiau wedi’u hanelu at y rheiny sydd ar gychwyn eu taith, neu sydd am ailgydio’n eu sgiliau.  

Rydyn ni’n gweithredu rhaglen gynhwysol ac yn sicrhau bod ein cyrsiau’n agored i bawb. Os hoffech chi gymryd rhan ond bod angen cefnogaeth hygyrchedd ychwanegol arnoch peidiwch ag oedi rhag cysylltu – e-bostiwch addysg@wmc.org.uk. 

Pwy sy’n arwain y cyrsiau?

Yn ogystal ag arweinwyr a gweithwyr llawrydd y diwydiannau creadigol rydyn ni hefyd yn cydweithio â phartneriaid i gyflwyno cyrsiau sydd wedi’u teilwra’n arbennig, gan roi’r hyfforddiant gorau yng Nghymru i chi. Mae’r rhain yn cynnwys:

Uchelgais Grand Abertawe

Welsh Games Academy

RedBrck 

Promo Cymru

Learnaboutfilm

Plant y Cymoedd

Boiler House Graffiti Gallery

The Printhaus