Skip to main content

Caneuon Celtaidd Beethoven

26 Mawrth 2027
Caneuon Celtaidd Beethoven
26 Mawrth 2027

Amser dechrau a hyd:

7:30pm

Oed:

No Under 2s, please note that all under 16s must be seated with an adult aged 18 or above.

Caneuon Celtaidd Beethoven

EGNI HUNANIAETH CÂN 

I nodi 200 mlynedd ers marwolaeth Beethoven, mae’r cyngerdd hwn yn dathlu’r cyfansoddwr drwy ei gysylltiadau rhyfeddol â thraddodiadau gwerin Ynysoedd Prydain. Dan arweiniad Grant Llewellyn, gyda’r bariton Gwilym Bowen Rees, y pibydd Carlos Núñez Muñoz a’r delynores Catrin Finch, mae’r rhaglen yn tynnu sylw at ddiddordeb Beethoven mewn alawon Cymreig, Gwyddelig ac Albanaidd. Mae caneuon fel The Vale of Clwyd, The Return to Ulster a The Pulse of an Irishman yn datgelu pa mor werthfawr oedd cerddoriaeth werin iddo fel ffynhonnell didwylledd a gwirionedd emosiynol. Mae’r gosodiadau hyn yn cyfuno alawon syml, llawn mynegiant â chrefftwaith digamsyniol Beethoven. Mae perfformiad o drefniant arbennig o’r hwiangerdd Suo Gân yn eistedd ochr yn ochr ag alawon ac amrywiadau Albanaidd a Gwyddelig. Mae’r cyngerdd yn agor gyda finale trydanol Symffoni Rhif 7, y mae ei bywiogrwydd rhythmig yn deyrnged bwerus i waddol parhaus ac ysbryd dynol Beethoven.    

Artistiaid- 

Grant Llewellyn -  Arweinydd 
Gwilym Bowen Rhys  -  Bariton 
Carlos Núñez Muñoz – Pibau 
Catrin Finch – Telyn 

Repertoire- 

Beethoven – Symphonie no. 7, IV: Allegro con brio 
Beethoven – ‘Sunset’ 
Beethoven – ‘The Return to Ulster’ 
Beethoven – ‘The Vale of Clwyd’ 
Beethoven – ‘So Sweet Were the Hours’ 
Beethoven – ‘The Parting Kiss’ 
Traddodiadol trefn. Chris Hazell – ‘Suo Gân’ 
Beethoven – ‘Bonnie Laddie, Highland Laddie’ 
Beethoven – ‘Our Bugles Sun Truce’ 
Beethoven – ‘Come Draw We Round a Cheerful Ring’ 
Beethoven – ‘On the Massacre of Glencoe’ 
Beethoven – ‘The Pulse of an Irishman’: Caneuon Gwyddelig, Rhif 4 
Beethoven – Chwe Alaw Genedlaethol ag Amrywiadau, Op. 105, rhifau 4 

Hygyrchedd Cadair Olwyn

Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.

Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.

Anabl

Gostyngiad o £5

Dros 65

Gostyngiad o £2

Dan 26 oed a Myfyrwyr

£7

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Orchestra seated on a stage inside a concert hall with an audience in the foreground
Wedi'i gyflwyno yn

Neuadd Hoddinott Y BBC

Croeso i gartref Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NOW).