Skip to main content

BBC NOW – NAWR!

26 Tachwedd 2026
Neuadd Hoddinott Y BBC
BBC NOW – NAWR!
26 Tachwedd 2026, Neuadd Hoddinott Y BBC

Amser dechrau a hyd:

7.30pm

Oed:

Dim plant dan 2 oed. Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

BBC NOW – NAWR!

CANFOD MOMENTWM MYNEGIANT

Mae’r rhaglen hynod ddychmygus hon, dan arweiniad Simon Crawford-Phillips, yn rhoi sylw blaenllaw i dri llais unigryw cerddoriaeth gyfoes, wedi’u fframio gan ddau première mawr yn y DU a première byd. Mae Straeon Byrion Coedwig Vienna HK Gruber yn agor y noson gyda chyfres o ddarluniau cerddorol hynod nodweddiadol, sydd yn eu tro’n chwareus, yn eironig ac yn llawn mynegiant tywyll.

Wrth galon y cyngerdd mae Concerto Stanley Bate i’r Fiola, sy’n cael ei berfformio gan yr unawdydd enwog Lawrence Power. Mae’r concerto yn waith grymus sy’n llawn mynegiant, ac mae’n datgelu llais cerddorol unigryw Bate, gan gyfuno dwysedd telynegol ag egni dramatig. Mae’r fiola’n hawlio’r sylw drwy'r amser, gan archwilio ystod emosiynol eang ac amlygu cynhesrwydd hynod, ystwythder a dyfnder cymeriad yr offeryn.

Yn olaf, mae gennym y perfformiad cyntaf yn y DU o Concerto for Curved Space Steven Mackey. Ar daith feistrolgar a chaleidosgopig, mae’r gwaith yn plethu rhythm, harmoni a genre gyda momentwm di-baid, gan ddod â’r nos i ddiweddglo cyffrous a chalonnog.

Artistiaid: 

Simon Crawford Phillips - Arweinydd

Lawrence Power –  Fiola    

Repertoire:

Straeon byrion o Goedwig Vienna [Premiere DU]

Stanley Bate Viola Concerto [Premiere DU]

EGWYL

Steven Mackey Concerto for Curved Space [Premiere DU]

Hygyrchedd Cadair Olwyn

Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.

Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.

Anabl

Gostyngiad o £5

Dros 65

Gostyngiad o £2

Dan 26 oed a Myfyrwyr

£7

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Orchestra seated on a stage inside a concert hall with an audience in the foreground
Wedi'i gyflwyno yn

Neuadd Hoddinott Y BBC

Croeso i gartref Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NOW).