Nutcracker gan Tchaikovsky
Amser dechrau a hyd:
7:30pm
Oed:
No Under 2s, please note that all under 16s must be seated with an adult aged 18 or above.
HUDOL RHYFEDDOL DYMUNOL
Dyma ddathliad i’r teulu cyfan gyda chlasuron Nadoligaidd dan arweiniad Luis Castillo-Briceño. Mae’r noson yn agor gyda’r Preliwd hudolus o Hänsel und Gretel Humperdinck, lle mae alawon gwerinol a lliwiau cerddorfaol disglair yn dod â’r goedwig hudolus yn fyw. Mae Christmas Dance “Syr Roger de Coverley” Frank Bridge yn dilyn, sy’n gorwynt o amrywiadau ar alaw boblogaidd o Loegr sy’n cael ei chwarae mewn dathliadau’r Nadolig, gan gloi gyda chyfeiriad llawen at Auld Lang Syne.
Mae The Young Person’s Guide to the Orchestra Benjamin Britten yn daith ddifyr a dadlennol o amgylch y gerddorfa, ac mae’n berffaith ar gyfer gwrandawyr chwilfrydig o bob oed. Ar ôl yr egwyl, mae cyfres hudolus y Nutcracker Tchaikovsky, yn cloi’r cyngerdd gyda hud, dawns ac alawon bythgofiadwy’r Nadolig.
Artistiaid:
Luis Castillo-Briceno – Arweinydd
Aleighcia Scott – Adroddwr
Repertoire:
Humperdinck Hänsel und Gretel: Prelude
Bridge Christmas Dance "Sir Roger de Coverley"
Britten Young Person's Guide to the Orchestra
Egwyl
Tchaikovsky Cyfres o’r Nutcracker
Hygyrchedd Cadair Olwyn
Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.
Anabl
Gostyngiad o £5
Dros 65
Gostyngiad o £2
Dan 26 oed a Myfyrwyr
£7
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Neuadd Hoddinott Y BBC
Croeso i gartref Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NOW).