Tchaikovsky 5
Amser dechrau a hyd:
7.30pm
Oed:
No Under 2s, please note that all under 16s must be seated with an adult aged 18 or above.
Bydd y cyngerdd lliwgar hwn, dan arweiniad y Prif Arweinydd Gwadd Jaime Martín, yn dod â cherddoriaeth at ei gilydd sy’n llawn awyrgylch, meistrolaeth a phŵer symffonig.
Sea Sketches gan Grace Williams fydd yn agor y noson, gan gyfleu cymeriad arfordir Cymru mewn cerddoriaeth sy’n lliwgar, sy’n llifo, ac sy’n chwa o awyr iach.
Bydd y sylw yna’n troi at y delynores Mared Pugh-Evans, sef yr unawdydd ar gyfer y Concerto i’r Delyn gan Henriette Renié – gwaith wedi'i siapio gan alawon ysgubol hir a rhannau meistrolgar gwych ar gyfer y delyn.
Ar ôl yr egwyl, bydd Symffoni Rhif 5 gan Tchaikovsky yn mynd â ni ar daith ddramatig o frwydr i fuddugoliaeth frwd, gan gloi’r rhaglen gydag angerdd.
Williams Sea Sketches (20')
Henreitte Renie Concerto I’r Delyn (25')
Egwyl
Tchaikovsky Symffoni Rhif 5 (44')
Hygyrchedd Cadair Olwyn
Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.
Anabl
Gostyngiad o £5
Dros 65
Gostyngiad o £2
Dan 26 oed a Myfyrwyr
£7
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Neuadd Hoddinott Y BBC
Croeso i gartref Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NOW).