Spirit of the Season
Amser dechrau a hyd:
7pm, 2 awr 30 munud (yn cynnwys egwyl)
Oed:
Neb o dan 3
Mae “Spirit of the Season!” yn dod â pherfformwyr o’r Cardiff Stage Choir & Orchestra a The Music School Rhiwbina – sy’n enwog yn eu maes – ynghyd â chorau ysgolion cynradd o Rhiwbeina, Llandough a Willowbrook, i greu noson hudolus o lawenydd y Nadolig!
Bydd grŵp gwych o berfformwyr dawnus yn ymuno â’i gilydd am un noson yn unig i gyflwyno dathliad godidog o bopeth rydych chi’n ei garu am dymor y Nadolig. Dewch â’r teulu cyfan i fwynhau cymysgedd disglair o garolau Nadolig traddodiadol, ffefrynnau’r tymor, ac ambell syrpreis Nadoligaidd hudolus. Bydd digonedd o hwyl, chwerthin a llawenydd y Nadolig i bob oedran. Archebwch nawr er mwyn osgoi siom.
HYGYRCHED CADAIR OLWYN
Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.
Neuadd Hoddinott Y BBC
Croeso i gartref Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NOW).