Strauss & Wagner
Amser dechrau a hyd:
3pm
Oed:
No Under 2s, please note that all under 16s must be seated with an adult aged 18 or above.
Mae Pedair Cân Olaf Richard Strauss, a gyfansoddwyd yn 1948, flwyddyn cyn ei farwolaeth, yn un o’r ffarweliadau mwyaf llewyrchol mewn unrhyw gerddoriaeth.
Gan osod testunau myfyriol iawn, mae Strauss yn myfyrio ar gariad, byrhoedledd a rhyddhad, gan dynnu’r gwrandäwr i mewn i’r hyn a oedd yn ei alw’n “gylch hud y nos.”
Ar ôl yr egwyl, mae Tristan und Isolde: An Orchestral Passion Wagner yn arddangos y cyfansoddwr pan oedd fwyaf chwyldroadol. Mae’r synthesis cerddorfaol godidog hwn wedi cael ei drysori ers tro fel gwaith cyngerdd ynddo’i hun, gyda’i arwyneb rhamantus hyfryd yn cuddio iaith harmonig feiddgar a drawsnewidiodd hanes cerddoriaeth o’r bariau agoriadol.
Dan arweiniad Anthony Hermus, mae’r rhaglen yn daith drochol gyda dau gyfansoddwr yn ailddiffinio posibiliadau emosiynol a cherddorol eu celf.
BRWDFRYDEDD FFARWEL LLEWYRCH
Strauss VIER LETZTE LIEDER Pedair Cân Olaf (24')
IEgwyl (20')
Wagner arr. | trefn. Henk de Vlieger Tristan und Isolde: An Orchestral Passion (60')
Hygyrchedd Cadair Olwyn
Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.
Anabl
Gostyngiad o £5
Dros 65
Gostyngiad o £2
Dan 26 oed a Myfyrwyr
£7
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Neuadd Hoddinott Y BBC
Croeso i gartref Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NOW).