rhapsody-in-blue
Amser dechrau a hyd:
7:30pm
Oed:
No Under 2s, please note that all under 16s must be seated with an adult aged 18 or above.
CYSYLLTIAD JAZZ TÂN
Mae’r rhaglen fywiog hon yn dwyn ynghyd gerddoriaeth sy’n cyfleu deialog, egni’r ddinas, a dawnsio yn yr haul, dan gyfarwyddyd Carlos Miguel Prieto. TZAM gan Gabriela Ortiz, sef “deialog” yn yr iaith Ayapaneco sydd dan fygythiad, fydd yn agor y noson, gyda myfyrdod pwerus ar gysylltiad dynol, cof, a rhannu gofod. Mae’r gwaith, a gyflwynwyd i’r diweddar gyfansoddwr Mario Lavista, yn gwahodd gwrandawyr i fod yn rhan o sgwrs gerddorol daer a myfyriol.
Ethan Loch fydd yr unawdydd ar gyfer darn eiconig Gershwin, Rhapsody in Blue, gwaith sydd wedi'i ysbrydoli gan rhythmau’r ddinas Americanaidd ac sy’n enwog am gael ei gyfansoddi wrth deithio ar drên. Dyma ddarn jazz meistrolgar sy’n Americanaidd heb os, ac sy’n galeidosgop cerddorol disglair.
Ar ôl yr egwyl, ceir bale’r Het Dri Chornel gan Manuel de Falla yn ei chyfanrwydd i gloi’r cyngerdd gyda lliwiau llachar, gan gyfuno rhythmau gwerin Sbaen â threfniant cerddorfaol gwych mewn sgôr theatrig hynod fywiog.
Artistiaid-
Carlos Miguel Prieto - Arweinydd
Ethan Loch – Piano
Angharad Lyddon – Mezzo
Repertoire-
Gabriella Ortiz - TZAM (20')
Gershwin - Rhapsody in Blue (16')
Egwyl
De Falla - Het Dri Chornel (35')
Hygyrchedd Cadair Olwyn
Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.
Anabl
Gostyngiad o £5
Dros 65
Gostyngiad o £2
Dan 26 oed a Myfyrwyr
£7
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Neuadd Hoddinott Y BBC
Croeso i gartref Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NOW).