Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

My Fair Lady

8 – 26 Tachwedd 2022

Theatr Donald Gordon

Yn dilyn rhediad arobryn yn y West End, mae cynhyrchiad llwyddiannus y Lincoln Center Theater o My Fair Lady yn dod i Gaerdydd am 3 wythnos yn unig.

Mae’r cynhyrchiad godidog hwn o sioe gerdd fyd-enwog Lerner & Loewe yn cynnwys y caneuon poblogaidd I Could Have Danced All Night, Get Me to the Church on Time, Wouldn’t It Be Loverly, On the Street Where You Live, The Rain in Spain ac I’ve Grown Accustomed to Her Face.

Gyda setiau moethus, gwisgoedd trawiadol a pherfformiadau hynod, dyma’r ffordd berffaith o ddathlu bod y byd theatr yn ôl.

Bydd Michael D. Xavier yn chwarae Henry Higgins, bydd Charlotte Kennedy yn chwarae Eliza Doolittle a bydd Adam Woodyatt o Eastenders yn chwarae rôl Alfred P. Doolittle. Bydd y soprano fyd-enwog Lesley Garrett yn ymuno â nhw i chwarae Mrs Pearce a bydd John Middleton (Emmerdale) yn chwarae Colonel Pickering.

“Thrilling! Glorious and better than it ever was! A marvellous and transformative revival”

New York Times

Mae’r cynhyrchiad bendigedig hwn, sydd wedi’i gyfarwyddo gan Bartlett Sher (The King and I, To Kill a Mockingbird), yn cynnwys sgôr cyfareddol Frederick Loewe a llyfr a geiriau Alan Jay Lerner.

“Lavish revival of Lerner and Loewe’s 1956 masterwork”

The Washington Post

Canllaw oed: 8+
Yn cynnwys goleuo strôb ac effaith tawch.

Amser dechraue:
Maw – Sad 7pm
Iau, Sad + Sul 2pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 45 munud (yn cynnwys yn egwyl)

CYNNIG AELODAU

£10 i ffwrdd ar y noson agoriadol (2 bris uchaf). Dod yn aelod.

CYNIGION GRŴP

Grwpiau 10+ o leiaf £5 i ffwrdd, Maw – Iau (2 bris uchaf)
Trefnu ymweliad grŵp

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall brisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon