Dewch i fwynhau’r cynhyrchiad newydd syfrdanol hwn o sioe gerdd lwyddiannus Take That, Greatest Days.
Mae Greatest Days yn cynnwys mwy na 15 o ganeuon poblogaidd Take That, ochr yn ochr â stori dwymgalon a doniol am gariad, colled a chwerthin gan yr awdur arobryn Tim Firth.
“AN UTTER JOY”
Mae’r sioe gerdd yn dilyn pum ffrind gorau sydd wedi gwirioni ar fand bechgyn yn y 1990au, sy’n aduno dros 20 mlynedd yn ddiweddarach i weld aelodau’r band am y tro olaf.
Yn perfformio yn Greatest Days fydd yr arobryn Kym Marsh, a ddaeth yn enwog pan oedd yn y band Hear'Say ac sydd bellach yn fwyaf adnabyddus am fod yn Coronation Street, Waterloo Road ac fel cyflwynydd ar Morning Live ar y BBC.
Gyda’r enw blaenorol The Band, torrodd y sioe recordiau swyddfa docynnau ac roedd cynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig wedi’u cyfareddu pan gafodd ei pherfformio rhwng 2017 a 2019.
“WILL MAKE YOU LAUGH, DANCE AND SING YOUR HEART OUT”
Yn dathlu 30 mlynedd ers sengl rhif un cyntaf erioed Take That yn y DU sef Pray, ac yn cyd-daro â rhyddhau ffilm swyddogol o’r sioe gerdd lwyddiannus yn ystod haf 2023, mae Greatest Days yn sicr o fod yn noson wych yn y theatr.
Stori wreiddiol gan Tim Firth.
Yn cynnwys cerddoriaeth Take That.
Canllaw oed: 8+ (ddim plant dan 2 oed)
Gall y cynhyrchiad hwn gynnwys iaith anweddus. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 10 munud (yn cynnwys un egwyl)
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 29 Mehefin, 7.30pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd i'w gadarnhau.
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol, nifer cyfyngedig o lefydd. Aelodaeth.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o £4, Maw – Iau. Trefnu ymweliad grŵp
CYNIGION I BOBL DAN 26 A MYFYRWYR
Gostyngiad o £4, Maw – Iau.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.