Artist sy’n paldaruo. Campwaith sydd wedi’i ddifetha. Llai na phumdeg munud i greu campwaith newydd. Mae pethau’n mynd i fynd yn flêr!
Daw’r gwneuthurwyr theatr rhyngwladol i blant, Brymore Productions, yn ôl i’r DU gyda’u cân i greadigrwydd.
Dewch i fwynhau sioe ryngweithiol o gomedi corfforol a chlownio campus wrth i’n hartistiaid fynd ati i greu campwaith newydd sbon.
Mae Mr Bean yn cwrdd â’r Mona Lisa yn y comedi lliwgar yma i blant bach a phlant mawr.
"ARTISTE stands out as wonderfully different. 4.5 Stars!"
Amser dechrau: 3.30pm, 2.30pm drysau
Canllaw oed: 3+ (Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn)
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
PLANT, POBL ANABL + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.