7,000 o deithwyr heb gludiant. Un dref fach. Stori wir ryfeddol.
Mae’r sioe lwyddiannus yma, sydd wedi ennill pedair gwobr Olivier gan gynnwys y Sioe Gerdd Orau yn Llundain a gwobr Tony am Gyfarwyddyd Gorau Sioe Gerdd ar Broadway, yn rhannu stori go iawn anhygoel y 7,000 o deithwyr awyr o bedwar ban byd a gafodd eu hailgyfeirio i Ganada yn sgil 9/11, a’r gymuned Newfoundland fach a wahoddodd y bobl yma i mewn i’w bywydau â chalonnau agored.
Dewch i brofi’r stori lawen a’r gerddoriaeth arbennig yma wrth i bobl leol frwdfrydig a theithwyr byd-eang ddod ynghyd i ffurfio cyfeillgarwch a fydd yn aros gyda nhw am byth. Mae capten benywaidd cyntaf American Airlines, maer meddylgar y dref, mam diffoddwr tân yn Efrog Newydd a gohebydd newyddion lleol awyddus ymhlith y nifer o gymeriadau go iawn a oedd yno ar ddechrau’r foment a newidiodd hanes ac y daeth eu straeon yn ddathliad go iawn o obaith, dynoliaeth ac undod.
Mae’r cyfarwyddwr sydd wedi ennill gwobr Tony Christopher Ashley ochr yn ochr â’r awduron sydd wedi ennill gwobr Olivier Irene Sankoff a David Hein yn dod â’r stori wir ddyrchafol yma i’r llwyfan mewn cynhyrchiad emosiynol sydd yn gwneud i gynulleidfaoedd godi ar eu traed noson ar ôl noson.
Canllaw oed: 10+ (dim plant dan 2 oed)
Gall y cynhyrchiad hwn gynnwys iaith anweddus
Hyd y perfformiad: Tua 1 awr a 50 munud (heb egwyl)
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf). Argaeledd cyfyngedig
GRWPIAU
Grwpiau o 10+, gostyngiad o £5 ar y 2 bris uchaf, Maw i Iau
Dyddiad talu grwpiau: 8 Ionawr 2024
O DAN 16
Gostyngiad o £5 ar y 2 bris uchaf, Maw – Iau
Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
MYFYRWYR
Gostyngiad o £5, Maw – Iau
Mae'r cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad