Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rambert: Death Trap

Cerberus/Goat gan Ben Duke

Theatr Donald Gordon

8 + 9 Ebrill 2024

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Rambert: Death Trap {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-1923

Rambert: Death Trap

Cerberus/Goat gan Ben Duke

8 + 9 Ebrill 2024

Theatr Donald Gordon

Ydy Aishwarya wedi marw? Neu ydy hi wedi gadael ar ochr chwith y llwyfan?

Dawns gomedi meta, yn llawn tyrfedd bywyd a marwolaeth, hiwmor tywyll a gwreiddioldeb.

Mae Rambert a Ben Duke yn feistri theatr ddawns lle mae’r dawnsio yn eithriadol ac mae’r theatr yn cyflwyno straeon cymhellol.

Yn Cerebrus, dewch i mewn i fyd lle mae dawns yn fater o fywyd neu farwolaeth. Dyma fyfyriad ar fytholeg a marwoldeb, gyda ffasiwn angladd. Mae Goat wedi’i ysbrydoli gan gerddoriaeth ac ysbryd Nina Simone, gyda band byw ar y llwyfan yn perfformio ei chaneuon eiconig gan gynnwys Feelings, Feeling Good a Ain’t Got No/I Got, Life.

Yn dilyn eu taith Peaky Blinders lwyddiannus, dyma eich cyfle nesaf i weld dawnswyr campus a beiddgar Rambert yn y ddau ddarn byr yma a grëwyd iddyn nhw gan Ben Duke (o Lost Dog), sy’n adnabyddus am adrodd straeon sy’n datgelu’r absẃrd, y gwyllt a’r doniol.

Cefnogwyd gan Cockayne – Grants for the Arts a The London Community Foundation

Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed). Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Warnings: contains strobe lights, haze effects, themes of bereavement/loss/death, partial nudity and strong language.

Perfformiad BSL + Sain Ddisgrifiad: 9 Ebrill

 Gyda dehongliad BSL gan Clare Edwards a Sain Ddisgrifiad gan Caroline Burn.

Amser cychwyn: Llun + Maw 7.30pm

Hyd y perfformiad: tua 1 awr a 10 munud yn cynnwys un egwyl

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), nifer cyfyngedig o lefydd. Aelodaeth

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £3 o leiaf (2 bris uchaf). Dyddiad talu grwpiau: 15 Ionawr 2024. Trefnu ymweliad grŵp

O DAN 16

Gostyngiad o £3 (2 bris uchaf)

16-30

Gostyngiad o £8 (3 bris uchaf)

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon