Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Mariza

Mariza

14 Hydref 2023

20 mlynedd o gerddoriaeth. 20 mlynedd o daith a ddechreuodd fel ffenomen leol, gudd bron, i un o gantorion mwyaf ac enwocaf y byd.      

Ar ôl perfformio yng Ngŵyl y Llais ym mlwyddyn gynta’r ŵyl yn 2016, mae Mariza’n dychwelyd i berfformio unwaith eto ar lwyfan Theatr Donald Gordon yn Llais.

Mae Mariza, a ddechreuodd fel cyfrinach leol wedi’i rhannu gan gylch bach o edmygwyr yn Lisbon, wedi mynd ymlaen i fod yn llysgennad byd i Fado. Dydy ei dull beiddgar ddim yn petruso wrth fynd ag ef ar hyd llwybrau newydd a chyffrous, heb golli golwg byth ar ei henaid.

Amser dechrau: 9pm 

Mwynhewch ddau berfformiad o’r radd flaenaf mewn un noson am bris gostyngedig pan fyddwch chi’n archebu’r ddau ddigwyddiad ar yr un pryd. Mynnwch docynnau ar gyfer Mariza a Qawwali Flamenco am £32.50 – ychwanegwch y ddau docyn at eich basged a chaiff y gostyngiad ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi’n talu. 

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.