Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Qawwali Flamenco

Qawwali Flamenco

14 Hydref 2023

Cywaith unigryw yw Qawwali Flamenco sy’n uno fflamenco o Andalucía gyda qawwali Indo-Pacistanaidd, sy’n creu grym llesmeiriol, bywiog.

Mae'r canwr qawwali seithfed cenhedlaeth Faiz Ali Faiz yn feistr ar y ffurf yma o gerddoriaeth ddefosiynol Sufi. Ar gyfer y gyngedd unigryw yma mae'n ymunoi â’r gitarydd fflamenco o fri Chicuelo ynghyd â’u hensembles am noson o gerddoriaeth fydd yn eich cludo i gyflwr o lesmair ysbrydol. Dyma gyfle prin i weld y ddau berfformiwr penigamp yma gyda’i gilydd.

Amser dechrau: 6.30pm

Mwynhewch ddau berfformiad o’r radd flaenaf mewn un noson am bris gostyngedig pan fyddwch chi’n archebu’r ddau ddigwyddiad ar yr un pryd. Mynnwch docynnau ar gyfer Mariza a Qawwali Flamenco am £32.50 – ychwanegwch y ddau docyn at eich basged a chaiff y gostyngiad ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi’n talu. 

TALWCH BETH Y GALLWCH

Yn newydd eleni, rydyn ni’n lansio nifer cyfyngedig o docynnau Talwch Beth y Gallwch lle y gallwch chi wneud cais am hyd at ddau ddigwyddiad Llais o’ch dewis ar sail y cyntaf i’r felin. Dysgwch fwy am y cynllun Talwch Beth y Gallwch.