Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Buddsoddi Yn Y Blaned

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi canolbwyntio ar leihau ein hôl troed carbon a dod o hyd i ddulliau newydd er mwyn gweithredu mewn ffordd fwy cynaliadwy.  

I nodi Diwrnod y Ddaear 2023, dyma bum ffordd rydyn ni’n buddsoddi yn y blaned.  

PWERU 1,900 O SEDDI

Yn ôl yn 2021 gwnaethom ni weithio gyda’r cwmni ynni solar Joju Solar i osod paneli solar yn llwyddiannus ar ein to am y tro cyntaf, gan leihau ein hôl troed carbon.  

Mae 720 o baneli solar ar chwe gofod ar y to sy’n wynebu tua’r de a gafodd eu gosod dros ddau ddiwrnod gyda chraen! Bydd yr ynni y bydd y paneli hyn yn ei gasglu yn pweru ein sioeau yn y Theatr Donald Gordon dros y 25 mlynedd nesaf. Gwyliwch fideo treigl amser o’r prosiect.

 

HWYL FAWR PLASTIG UNTRO

Rydyn ni wrthi’n tynnu plastig untro yn llwyr o’n bariau a’n caffis. Caiff ein diodydd yn ein bariau theatr eu gweini mewn cwpanau plastig amldro y gellir eu hailgylchu hefyd ac rydyn ni wedi cael gwared ar wellt a chyllyll a ffyrc untro yn ein caffis. 

ARBED, AILDDEFNYDDIO, AILGYLCHU

Ar hyn o bryd rydyn ni’n ailgylchu 82% o’n gwastraff, ac rydyn ni’n gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus ar fentrau i reoli gwastraff yn effeithiol ar draws ein safle. I leihau gwastraff bwyd yn ein caffis, rydyn ni’n gweithio gyda’r ap bwyd dros ben Too Good To Go. Rydyn ni hefyd wedi dechrau gweini diodydd mewn caniau lle y bo’n bosibl am eu bod yn defnyddio llai o ynni i’w hailgylchu na gwydr.  

GOLEUADAU YMLAEN

I wneud goleuadau ein theatr mor ecogyfeillgar â phosibl, rydyn ni’n newid goleuadau hŷn i rai sy’n fwy effeithlon o ran ynni fel goleuadau LED. Mae 66% o’r goleuadau yn ein hadeilad bellach yn rhai LED. Mae dyfodol disglair o’n blaenau! 

CYSYLLTU Â RHWYDWAITH GWRES CAERDYDD

Yn 2023 byddwn ni’n dod yn rhan o gam cyntaf Rhwydwaith Gwres Caerdydd, ffordd newydd arloesol o wresogi adeiladau cyhoeddus a chartrefi yn y pen draw. Bydd dŵr poeth a gynhyrchir drwy losgi sbwriel mewn llosgydd yn cael ei anfon drwy bibellau tanddaearol i adeiladau cyhoeddus ledled y ddinas fel ni, gan olygu na fydd angen boeleri nwy sy’n allyrru carbon. Bydd hyn yn lleihau ein allyriadau carbon 80%! Dysgwch fwy yn Caerdydd Un Blaned.

Argyfwng yr hinsawdd yw’r broblem fwyaf sy’n ein hwynebu yn yr oes yma ac rydyn ni’n cymryd ein cyfrifoldeb i fod yn lleoliad cynaliadwy o ddifrif. Gallwch chi ddysgu mwy am sut rydyn ni’n gweithio i gyrraedd targedau Sero Net yn yr adran Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd.