Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Two women facing each other, embracing lovingly

Sesiwn Holi ac Ateb gyda Chast The Color Purple The Musical

Cawsom sgwrs â Me'sha Bryan am chwarae Celie yn The Color Purple The Musical, sy'n dod i'n Theatr Donald Gordon am y tro cyntaf y mis Hydref hwn.

Yn seiliedig ar y nofel gan Alice Walker a enillodd wobr Pulitzer, mae'r sioe gerdd nodedig hon yn dathlu bywyd, cariad a'r cryfder i sefyll dros bwy ydych chi a'r hyn rydych chi'n credu ynddo. 

Menyw Ddu yn canu ar y llwyfan mewn dyngarîs melfaréd brown

Sut wyt ti'n teimlo am ymuno â The Color Purple fel Celie?

Mae fy Mam mor hapus; mae'n dweud wrth bawb yn y bar ewinedd, ha ha! Mae The Color Purple yn un o'r straeon eiconig hynny y mae pawb yn gyfarwydd â hi. Mae unrhyw un sy'n clywed fy mod i'n chwarae Celie yn ymateb gan ddweud "O waw, mae hynny'n wych. Ai dyna'r un gyda Whoopi Goldberg?" ac yna maen nhw'n dechrau sôn am yr holl gymeriadau eraill a'u cysylltiadau personol â'r stori.

Beth mae Celie yn ei olygu i ti fel cymeriad?

Mae Celie yn symbol cadarnhaol o obaith. Mae'n un o'r bobl hynny sydd ddim yn sylweddoli pa mor bwysig yw hi i bawb o'i chwmpas. Mae fel y glud sy'n dod â phawb at ei gilydd ac mae hi wrth wraidd y gymuned heb sylweddoli hynny. Mae'n garedig, yn gariadus, ac yn obeithiol yn ddiffael; mae'n ysbrydoliaeth i'r rhai sy'n dioddef, gan eu galluogi i sylweddoli mai dim ond gwella y gall pethau wneud. 

Cast The Color Purple The Musical ar y llwyfan

Mae gan Celie rai caneuon mawr yn y sioe. Sut wyt ti'n teimlo am hynny? 

Wel, rydyn ni gyd yn hoffi canu on'd ydyn ni! Mae'n neis ymestyn eich llais, canu yn iawn a gwneud ymdrech mawr gan gynnal sylfaen technegol cryf ac aros yn iach, a dyna beth dwi'n ei ddweud wrth fy myfyrwyr lleisiol. Mae'r stori'r sioe yn rhychwantu 30 mlynedd ac yn cwmpasu genres cerddorol fel cerddoriaeth blues, jazz, efengylol ac mae hyn yn oed rhai darnau ffynclyd sy'n fy ngalluogi i ddefnyddio technegau lleisiol a lliwiau gwahanol yn fy llais.

Mae'n bleser perfformio'r gerddoriaeth oherwydd mae'r caneuon a'r llyfr wedi'u hysgrifennu mor dda. Rydych chi'n cael eich trochi gan deimladau'r hyn rydych chi'n ei wneud felly rydych chi'n gallu rhoi'r emosiwn hwnnw yn y gân yn uniongyrchol a chyfleu'r teimlad hwnnw i'ch cynulleidfa yn hawdd. 

Beth mae stori The Color Purple yn ei olygu i ti?

Mae cynifer o haenau gwahanol yn The Color Purple. Mae'r stori'n sôn am gariad a gwahanol fathau o gariad: cariad rhwng brodyr a chwiorydd, cariad rhwng rhieni a phlant, cariad rhwng cariadon, cariad at eich cymuned, cariad at eich ffrindiau ac yn bwysicaf oll i Celie, hunangariad. Felly, yn amlwg, mae cariad yn rhan enfawr o'r sioe ynghyd â gobaith, ffydd a chyfeillgarwch.

Flynyddoedd yn ôl, gwnaeth fy Mam fenthyg copi o'r ffilm gan un o'i ffrindiau ac, wrth iddi wylio a rhoi ei sylwebaeth barhaol arferol, rwy'n cofio gweddill fy nheulu yn cael eu denu i'r ystafell fyw gan y stori bwerus, gymhellol a dyrchafol ac yn cefnogi'r cymeriadau rhyfeddol roedd Alice Walker wedi'u creu.

Roeddwn i'n gwybod bryd hynny bod The Color Purple yn rhywbeth arbennig ac mae'n fraint enfawr cael portreadu Celie.

Dysgwch fwy gan Me'sha ac aelodau eraill o gwmni The Color Purple yn ystod ymarferion:

Mae The Color Purple The Musical ymlaen rhwng 18 a 22 Hydref.
Dod o hyd i docynnau o £15.50