Dilynwch stori'r arwres ddewr Celie wrth iddi deithio drwy lawenydd, anobaith, gofid a gobaith yn ei deffroad personol ei hun i ddarganfod ei llais unigryw yn y byd.
Gyda sgôr hynod atgofus gan enillwyr gwobr Grammy Brenda Russell, Allee Willis a Stephen Bray sy’n tynnu ysbrydoliaeth o jazz, ragtime, efengylol a blws, mae'r sioe gerdd nodedig hon yn dathlu bywyd, cariad a'r cryfder i sefyll dros bwy ydych chi a'r hyn rydych chi'n credu ynddo.
“A musical with heart, spirit and soul”
Mae'r cronicl teuluol hwn sy’n codi’ch enaid wedi'i osod yn ne America yn y 1900au. Wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, mae Celie'n cael ei cham-drin a'i gormesu ac yn dechrau derbyn sefyllfa ei bywyd. Ond pan fydd ei chyfeillgarwch â’r Sofia annibynnol a’i chariad gyda'r canwr glamoraidd Shug yn dechrau ysgwyd pethau, mae'n dechrau cwestiynu ei byd; a deall bod yn rhaid bod mwy i’w gael mewn bywyd.
Yn seiliedig ar nofel Alice Walker a enillodd Wobr Pulitzer ac addaswyd ar gyfer y llwyfan gan yr enillydd gwobrau Pulitzer a Tony, Marsha Norman, enillodd y cynhyrchiad Made at Curve a Birmingham Hippodrome hwn ganmoliaeth a gwbor y Cynhyrchiad Rhanbarthol Gorau (Gwobrau WhatsOnStage).
“A glorious, immensely moving celebration of triumph over adversity ”
Canllaw oed: 14+
Nodwch fod y cynhyrchiad yn cynnwys themâu o drais, cam-drin a llosgach, gyda hiliaeth a rhywiaeth amlwg.
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: tua 2 awr 20 munud (gan gynnwys un egwyl)
CYNNIG AELODAU
£10 i ffwrdd ar y noson agoriadol, 2 bris uchaf. Dod yn aelod.
CYNIGION GRŴP
Grwpiau 10+ o leiaf £4 i ffwrdd, Maw – Iau, 2 bris uchaf. Trefnu ymweliad grŵp.
YSGOLION
Tocynnau am £12, Maw – Iau — Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl.
Argaeledd cyfyngedig. Ffoniwch 029 2063 6464 i archebu.
CYNNIG MYFYRWYR
£8 i ffwrdd, Maw – Iau, 2 bris uchaf.
Dan 26 Oed
Tocynnau am £12, Maw – Iau. Argaeledd cyfyngedig, yn berthnasol i seddi dethol.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.
Yn seiliedig ar nofel Alice Walker a ffilm Warner Bros./Amblin Entertainment.
Llyfr gan Marsha Norman
Cerddoriaeth a geiriau gan Brenda Russell, Allee Willis a Stephen Bray
Cynhyrchwyd The Color Purple ar Broadway yn y Broadway Theater gan Oprah Winfrey, Scott Sanders, Roy Furman a Quincy Jones. Cynhyrchwyd premiere byd The Color Purple ganyr Alliance Theatre, Atlanta, Georgia.
Cyflwynwyd The Color Purple drwy drefniant arbennig gyda Theatrical Rights Worldwide, 1180 Avenue of the Americas, Suite 640, Efrog Newydd, NY 10036.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad