Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Cystadleuaeth Dydd Mawrth Rhoi

Helpwch ni i drawsnewid bywydau drwy gefnogi ein gwaith creadigol a chymunedol ar Ddydd Mawrth Rhoi. 

Cyfrannwch £5 neu fwy rhwng nawr a dydd Mawrth 28 Tachwedd i gael cyfle i ennill aelodaeth Ffrind+ am ddim* (gwerth £150) sy’n cynnwys buddion arbennig fel blaenoriaeth wrth archebu, mynediad i’n lolfa breifat, gostyngiadau a mwy. 

Gallai cyfrannu £5 dalu i berson ifanc ddod i un o’n cyrsiau Llais Creadigol am wythnos. Llais Creadigol yw ein rhaglen hyfforddi unigryw sy’n cynnig llwyfan i bobl ifanc 11–25 oed archwilio eu diddordebau a meithrin sgiliau creadigol mewn ystod o ddisgyblaethau, gan ddysgu o arbenigwyr yn y diwydiant ac arweinwyr yn y sector. 

Bydd pob cyfraniad yn cefnogi ein gwaith sy’n newid bywydau pobl ifanc, cymunedau lleol a darpar artistiaid, ac yn helpu i danio ein dyfodol. Darllenwch fwy isod ac ymunwch â’r achos drwy gyfrannu. *Mae telerau ac amodau yn gymwys. 

Taniwch ein dyfodol

Ffyrdd eraill o gyfrannu 

Fel elusen, rydyn ni’n dibynnu ar gefnogaeth ein cynulleidfaoedd a’n cefnogwyr i barhau â’n gwaith creadigol a chymunedol. 

Y llynedd, gwnaeth eich cyfraniadau ein galluogi i rymuso 170+ o bobl ifanc drwy ein cyrsiau hyfforddi Llais Creadigol am ddim; hyfforddi 80+ o bobl ifanc fel rhan o raglen hyfforddi achrededig Radio Platfform; cynnig profiadau theatr fforddiadwy i 3,000+ o aelodau’r gymuned; a chyflwyno ein hwythfed cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru i gynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a Llundain. 

Hebddoch chi, gallen ni ddim parhau â’r gwaith yma. Os gwelwch yn dda, ystyriwch ein cefnogi ni ar Ddydd Mawrth Rhoi – mae pob cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth.  

Mae llawer o ffyrdd eraill y gallwch chi ein cefnogi ni, heblaw am ein cystadleuaeth, a bydd rhai ohonyn nhw ddim yn costio dim i chi! Darganfyddwch mwy am sut i gefnogi ni.

*Telerau ac amodaucystadleuaeth Dydd Mawrth Rhoi   

I fod yn gymwys, rhaid i gyfranogwyr roi £5 neu fwy i Ganolfan Mileniwm Cymru rhwng dydd Mawrth 21 Tachwedd a dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023. Bydd enillydd y gystadleuaeth yn gallu hawlio aelodaeth Ffrind+ am flwyddyn, gwerth £150. Caiff yr enillydd ei ddewis ar hap a byddwn yn cysylltu â nhw drwy’r wybodaeth a ddarperir ar eu cyfrif. Ni ellir trosglwyddo’r wobr ac nid oes dewis amgen o arian parod ar gael. Caiff gwybodaeth bersonol cyfranogwyr ei defnyddio ar ddiben y gystadleuaeth yn unig a bydd yn ddarostyngedig i’n polisi preifatrwydd. Mae’r trefnwyr yn cadw’r hawl i anghymhwyso unigolion sy’n torri’r telerau, gwneud addasiadau neu ganslo’r gystadleuaeth oherwydd amgylchiadau annisgwyl neu broblemau technegol. Drwy gymryd rhan, mae cyfranogwyr yn cytuno i’r telerau ac amodau yma.