Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
The Successors of the Mandingue playing drums.

Dathliad o ddiwylliant Affricanaidd a Chymreig

Bydd cerddoriaeth o bob cwr o Affrica yn atseinio o amgylch ein hadeilad y penwythnos yma gyda dawns, perfformiadau Affricanaidd-Cymreig, gweithdai, arddangosfa gelf/ffotograffiaeth a llawer mwy. Mae Gŵyl Dathliad Cymru-Affrica yn ddathliad go iawn o Affrica yng Nghymru! 

Bydd y penwythnos yn ddathliad o gyfoeth amrywiaeth yng Nghymru, yn benodol diwylliant a chelfyddydau Affricanaidd ar wasgar.  

Dyma dri rheswm i ddod i brofi’r ŵyl yma rhwng 10 a 11 Mehefin. 

Cerddoriaeth fyw anhygoel o Affrica

Dewch i fwynhau cerddoriaeth aruthrol gan rai o gerddorion mwyaf talentog Affrica gan gynnwys Kanda Bongo Man, Rasha, Bassekou Kouyate a llawer mwy. Hefyd, bydd perfformiadau gan artistiaid o Gymru a’r DU, gan gynnwys hoff ddechreuwyr parti Caerdydd Afro Cluster, yn ogystal â The Successors of the Mandingue All Stars ac Eve Goodman a fydd yn perfformio cydweithrediad arbennig sy’n dod â thraddodiadau gwerin Gorllewin Affrica a Chymru at ei gilydd mewn darn unigol, gan ddathlu ieithoedd a thraddodiadau diwylliannol eu gwledydd tarddiad 

Dysgwch sgil newydd mewn gweithdy 

Dros y penwythnos, bydd gweithdai drymio, dawns a geiriau llafar i’r rhai sydd am ddysgu rhywbeth newydd. Mae gostyngiad o 20% ar y gweithdai i ddeiliaid tocynnau’r ŵyl ac maen nhw’n rhad ac am ddim i bobl o dan 25 oed. Dyma restr o’r gweithdai:

Sad 10 Mehefin 

Djembe, Djembe, Djembe (10.45am, 11.15am, 11.45am a 12.15pm) 

Bydd drymwyr o The Successors of the Mandingue yn arwain pedwar gweithdy djembe 30 munud. 

Gweithdy Dawns Gorllewin Affricanaidd gyda Drymio Byw (1.45pm)  

Bydd y dawnsiwr o Orllewin Affrica Oumar Almamy Camara yn hwyluso’r sesiwn yma gyda rhythmau byw wedi’u harwain gan The Successors of the Mandingue All Stars. 

Sul 11 Mehefin 

Gweithdy Dawns Ethiopaidd gydag Adi Detemo (11am) 

Ymunwch ag Adi Detemo ar gyfer gweithdy dawns Ethiopaidd bywiog. 

Gweithdy Llais a Tharo'r Corff gyda Liz Ikamba (1pm) 

Ymunwch â Liz Ikamba ar gyfer gweithdy hwyliog lle byddwch chi’n dysgu sgiliau ar gyfer creu cerddoriaeth gydweithredol yn y foment gan ddefnyddio eich llais a’ch corff yn unig. 

Sgrinio Ffilm Fer a Gweithdy Geiriau Llafar gydag Ali Goolyad (4.30pm) 

Bydd y bardd, yr actor a’r ymgyrchydd cymunedol Ali Goolyad yn cynnal gweithdy geiriau llafar ynghyd â sgrinio ei ffilm fer a grëwyd ar y cyd â Dafydd Iwan. Rhad ac am ddim i ddeiliad tocynnau’r ŵyl. 

Dewch i gael eich ysbrydoli gan gelf Gymreig ac Affricanaidd 

Wrth i chi ddod i mewn i Ganolfan Mileniwm Cymru, yn ein cyntedd a’n bar caffi Ffwrnais gallwch chi weld arddangosfa o ffotograffiaeth a chelf gymunedol arbennig a grëwyd gan artistiaid o Gymru ac Affrica. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n treulio ychydig o amser yn edrych ar y darnau o gelf ysbrydoledig yma. 

Cyflwynir Gŵyl Dathliad Cymru-Affrica gan The Successors of the Mandingue, Neuadd Ogwen, Butetown Arts & Culture Association (BACA) a Rahim El Habachi. 

Pris tocynnau penwythnos yw £50 a phris tocynnau dydd yw £30. Gall pobl o dan 16 oed fynnu tocynnau hanner pris. Dod o hyd i docynnau ar gyfer Gŵyl Dathliad Cymru-Affrica