Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Gŵyl Dathliad Cymru-Affrica

Canolfan Mileniwm Cymru

10 – 11 Mehefin 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Gŵyl Dathliad Cymru-Affrica {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-1752

Gŵyl Dathliad Cymru-Affrica

10 – 11 Mehefin 2023

Canolfan Mileniwm Cymru

Penwythnos o gerddoriaeth wefreiddiol o ar draws Affrica gyda dawns, perfformiadau Affro-Gymraeg, gweithdai, arddangosfa celf/ffotograffiaeth a llawer mwy. Gwir ddathliad o Affrica yng Nghymru!

Mae Dathliad Cymru Affrica yn gyfle i brofi celf pan-Affricanaidd. Bydd y penwythnos yn ddathliad o gyfoeth amrywiaeth yng Nghymru, yn benodol diwylliant a chelfyddydau Affricanaidd. Mae gennym artistiaid gwadd o Affrica (Mali, De Affrica, Sudan a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo), ynghyd ag artistiaid Affricanaidd sydd wedi eu lleoli yng Nghymru ac ar draws y DU.

Cyflwynir i chi gan The Successors of the Mandingue, Neuadd Ogwen, Butetown Arts & Culture Association (BACA) a Rahim El Habachi.

Tocynnau

Tocynnau penwythnos: £50

Tocynnau dydd: £30

Dan 16 oed: Hanner pris

Dydd Sadwrn 10 Mehefin

Hanisha Solomon

Mae Hanisha Solomon yn gantores Ethiopiaidd sy’n byw yn Llundain.

Mae hi’n dalent anhygoel, yn canu mewn Amhareg, Oromiffa ac Arabeg. Mae ei cherddoriaeth yn cynrychioli synau hardd a phwerus Ethiopia a thu hwnt. Mae ei cherddoriaeth yn cynnwys caneuon am anghyfiawnder, dynoliaeth a’r angen am undod.

The Successors of the Mandingue All Stars gydag Eve Goodman

Bydd The Successors of the Mandingue yn cyflwyno band saith aelod trawiadol. Maen nhw'n hyrwyddo'r diwylliant Mandinka, ac mae pob artist yn seren yn ei rhinwedd ei hun, wedi’i throchi yn nhraddodiad barddol griot (neu djeli) Gorllewin Affrica o warchod straeon a hanesion eu pobl trwy gerddoriaeth, dawns, a chân. Yn hanu o Gini, Senegal, Y Gambia, Cote d’Ivoire a Burkina Faso, mae eu harddull cerddorol wedi’u gwreiddio yn yr un traddodiadau hynafol a oedd yn ymestyn dros yr Ymerodraeth Mandingue hynafol.

Ar gyfer Dathliad Cymru Affrica, mae cydweithrediad arbennig wedi’i gomisiynu rhwng N’famady Kouyaté (Cyfarwyddwr Artistig The Successors of the Mandingue) ac Eve Goodman i ddod â thraddodiadau gwerin Gorllewin Affrica a Chymru ynghyd mewn un darn, gan ddathlu traddodiadau diwylliannol hynafol ac ieithoedd eu gwledydd gwreiddiol. Gwnaeth N’famady ac Eve gyfarfod am y tro cyntaf pan gynrychiolodd y ddau Gymru yn Celtic Connections 2022 ac rydym yn gyffrous i glywed y gwaith maent wedi bod yn ei greu.

Rasha

Mae Rasha yn gantores, cerddor a chyfansoddwr caneuon hynod ddawnus o Sudan sydd wedi bod â phresenoldeb byd-eang yn y sîn gerddoriaeth ryngwladol ers dros 30 mlynedd.

Mae arddull gerddorol Rasha yn gyfuniad hynod ddiddorol o arddulliau gan gynnwys traddodiadau cerddorol canrifoedd oed y diwylliant Nubian, rhythmau canolbarth Sudan, curiadau tom-tom y Sahel Affricanaidd, adleisiau a dylanwadau synau Gogledd Affrica, synau Arabeg ac Andalusaidd (flamenco), blues modern, jazz a reggae.

Yn ystod ei gyrfa mae Rasha wedi cydweithio â Youssou N’Dour, K’naan, Geoffrey Oryema a nifer o bobl eraill.

Matuki

Grŵp Afrobeat â 12 aelod yw Matuki sydd ag arddull hypnotig, blaengar a llawn egni. Yr arweinydd yw’r drymiwr, offerynnwr taro, trefnwr, arweinydd band, canwr a chyfansoddwr caneuon carismatig o’r Gambia, Ebou Sanyang 

 

 

Kanda Bongo Man

Y seren o'r Congo Kanda Bongo Man, sy'n cael ei alw'n "The King of Soukous", oedd un o’r artistiaid cynharaf i gyflwyno’r gerddoriaeth hon yn rhyngwladol. Mae’n fwyaf enwog am ei unawdau gitâr hudolus a roddodd enedigaeth i’r ddawns enwog Kwasa Kwasa, a hyrwyddwyd gan John Peel ac Andy Kershaw ar ddiwedd yr 80au!

Mae cerddoriaeth Kanda yn cael ei llywio gan optimistiaeth a hapusrwydd. Mae ei berfformiadau gwefreiddiol yn gyffrous ac yn egnïol ond eto wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn nhraddodiad y Congo. Gyda’i fand â saith aelod anhygoel y tu ôl iddo, peidiwch â cholli Kanda Bongo Man yn cyflwyno cerddoriaeth a dawns lawen canolbarth Affrica.

DYDD SUL 11 MEHEFIN

Agmar Band

Syniad y cerddor Hassan Nainia sy’n hanu o ranbarth Sous yn ne Moroco yw Agmar Band. Maen nhw’n chwarae cymysgedd o gerddoriaeth Gogledd Affricanaidd draddodiadol, yn bennaf Amazigh (Berber), gan ddefnyddio’r offeryn Amazigh traddodiadol y Loutar a banjo.

Ar ôl gyrfa yn ymestyn dros ddegawdau ym Moroco, mae Hassan bellach yn adnabyddus yn y DU am gydweithio ar albwm 2018 Jah Wobble & MoMo Project-Maghrebi Jazz a pherfformio gyda’r chwaraewr kora Senegalaidd Diabel Cissokho.

Bantu Arts

 

Cwmni o ddawnswyr, offerynwyr taro, offerynwyr a chantorion gwrywaidd a benywaidd yw Bantu Arts. Maen nhw’n defnyddio offerynnau fel Adungu (gitâr Affricanaidd â thannau), Ngoma, endigidi (feiolin Affricanaidd) ac enkwanzi (pibau Pan) ymhlith eraill. Mae’r mwyafrif o’u perfformiadau yn cynnwys llên gwerin draddodiadol Uganda mewn cerddoriaeth a dawns.  

CYDWEITHREDIAD DAWNS FUSION: KRYSTAL LOWE AC ALMAMY CAMARA

Mae Ballet Gymru yn cwrdd â Ballet Africains gyda’r comisiwn gŵyl arbennig hwn sy’n dod â Krystal Lowe (artist dawns bale a gyfoes yng Nghymru) ac Almamy Camara (prif ddawnsiwr traddodiadol o Orllewin Affrica) ynghyd. Mae’r ddau wedi bod yn ymwneud â phrosiectau cydweithio dawns ryngwladol wahanol The Successors of the Mandingue ar-lein yn ystod y cyfnod clo. Daeth y prosiectau hynny ag artistiaid dawns traddodiadol Gorllewin Affrica a chyfoes o Gini, Senegal, Cymru a Chanada ynghyd i greu darnau ymasiad trwy Zoom. Rydym yn gyffrous iawn i weld sut mae’r bartneriaeth hon yn datblygu drwy ddod â Krystal ac Almamy a’u harddulliau unigryw at ei gilydd yn yr un ystafell!

Mae Oumar Almamy Camara yn ddawnsiwr ac yn athro dawns o Conakry, Gini. Er mwyn bod yn wir feistr ar ddawns Gini, mae angen i’r dawnsiwr wybod y rhythmau a gallu eu chwarae.

Mae Krystal S. Lowe yn ddawnsiwr, coreograffydd, ysgrifennwr a chyfarwyddwr o Bermuda sy’n byw yng Nghymru yn perfformio ac yn creu gweithiau theatr ddawns ar gyfer llwyfan, gofodau cyhoeddus, a ffilm i archwilio themâu hunaniaeth groestoriadol, iechyd meddwl a lles, a grymuso’i herio ei hun a chynulleidfaoedd tuag at fewnwelediad a newid cymdeithasol.

Afro Cluster

Cydweithfa a aned yng Nghaerdydd yw Afro Cluster sy'n cael eu hysbrydoli gan etifeddiaeth ffync/Afrobeat Gorllewin Affrica a Hip-Hop yr oes aur.

Yn ystod eu perfformiad fe glywch rythmau cryfion a chytganau jazz wedi’u haddurno gan eiriau ysgogol wedi’u hysgrifennu a’u canu gan emcee Skunkadelic.

Bassekou Kouyaté + Ngoni Ba

Mae Bassekou Kouyate, o Mali, yn un o feistri’r ngoni, liwt draddodiadol hynafol sy’n cael ei chwarae ledled Gorllewin Affrica, ac mae’n cael ei barchu fel un o brif artistiaid byd-eang Affrica.

Mae ei fand, Ngoni Ba, yn cynnwys chwaraewyr ngoni, offerynwyr taro a’r gantores ffantastig Amy Sacko. Gyda’i gilydd mae’n nhw wedi chwyldroi swn y ngoni, ac wedi gwthio canrifoedd o draddodiadau griot i’r dyfodol.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru