Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae Menywod Greenham ym Mhobman

Mae ein cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru diweddaraf Es & Flo yn cynnwys cwpl lesbiaidd a gwrddodd yng Ngwersyll Heddwch Menywod Greenham Common.

I gyd-fynd â’r cynhyrchiad, mae gennym sawl digwyddiad ffantastig sydd wedi’u trefnu gan Greenham Women Everywhere a Scary Little Girls sy’n amlygu effaith Greenham ac yn adrodd straeon gan y bobl a oedd yno.

 

Gêm Fwrdd Greenham Common, 

28 Ebrill – 13 Mai, Lolfa

Dewch i roi cynnig ar brototeip o gêm fwrdd wedi’i hysbrydoli gan brofiadau pobl yng Ngwersyll Heddwch Menywod Greenham Common.

 

Rebecca Mordan a Frankie Armstrong: 'Out of the Darkness'

Sgwrs Gyda'r Awdur a Chaneuon Greenham Common

28 Ebrill 6.15pm – 6.45pm, Glanfa

Trafodaeth gyda Chyfarwyddwr Artistig Scary Little Girls, Rebecca Mordan, am ei llyfr Out of the Darkness: Greenham Voices 1981–2000. Bydd Rebecca yn darllen ac yn adrodd straeon o’r llyfr cyn i Frankie Armstrong ganu ychydig o ganeuon o ddyddiau Greenham. Gallan nhw hefyd ateb eich holl gwestiynau am y gwersyll heddwch – ewch amdani!

 

Crefftiaeth a Rhannu Atgofion

29 Ebrill, 11am – 3pm, Lolfa

Bydd y sesiwn yn dechrau gyda sgwrs am effaith Gwersyll Heddwch Menywod Greenham Common gan un o blant Greenham, Rebecca Mordan, ac yna bydd cyfle i wneud ychydig o waith crefftiaeth a mwynhau cacen wrth i ni greu gofod ar gyfer y newid rydyn ni am ei weld yn y byd! Bydd y gwaith crefftiaeth yn cynnwys cyfrannu at faner leol a chreu bathodynnau radical.

 

Sgwrs gydag Ann a Sally Bell

2 Mai, 6pm – 6.15pm, Glanfa

Roedd Ann yn fyfyriwr PhD pan aeth i Greenham yn gyntaf ac roedd Sally yn ddinesydd Americanaidd a oedd yn byw yn y DU. Gwnaethon nhw gwrdd yn y gwersyll heddwch, gan fyw yn Orange Gate yn barhaol rhwng 1983 ac 1985, ac yn hwyrach fe wnaethon nhw briodi. Dewch i’w clywed yn sgwrsio â Rebecca Mordan am eu profiadau yn Greenham.

 

Bread & Roses

2 Mai 6.15pm – 6.45pm, Glanfa

Triawd lleisiol ewn yw Bread & Roses sy’n canu caneuon am gariad, gobaith a gwydnwch mewn harmoni a cappella.

Cafodd y grŵp ei ffurfio gan Frankie Armstrong, y canwr gwerin adnabyddus ac enillydd Gwobr Bathodyn Aur 2018 Cymdeithas Ddawns a Chaneuon Gwerin Lloegr (EFDSS), a llywydd a sylfaenydd y Natural Voice Network. Yn ymuno â hi bydd Pauline Down a Laura Bradshaw – perfformwyr, cerddorion cymunedol a chyfansoddwyr o dde Cymru.

Mae rhai o’r caneuon byddan nhw’n eu perfformio wedi’u cynnwys ar albwm diweddaraf Frankie a gafodd ei enwi’n albwm gwerin y mis The Guardian yn 2021.

Maen nhw’n gobeithio cyfleu pŵer, tynerwch a hwyl drwy eu caneuon, gan gynnwys y gynulleidfa fel gwrandawyr ac weithiau cyfranogwyr.

 

© Wendy Carrig

Tu allan i’r Stiwdio Weston bydd hefyd gennym arddangosfa ffotograffau ardderchog am Greenham gan Wendy Carrig o’r enw Common People, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld pan fyddwch chi’n dod i weld Es & Flo, 28 Ebrill – 13 Mai.

Prif lun: Julia Ball