Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

SYNIADAU ANRHEGION SANTES DWYNWEN A SAN FFOLANT (A GWRTH-SAN FFOLANT)

Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi dod eto. Mae calonnau dros ffenestri siopau ac mae pobl yn ystyried pŵer llwy garu. A yw Dydd Santes Dwynwen a San Ffolant yn ddigwyddiadau corfforaethol, neu a ydyn nhw’n gyfle i ddweud, yn ddigywilydd ac yn agored, rwy’n dy garu di. Beth bynnag yw eich statws priodasol, weithiau mae’n teimlo’n dda i ddweud wrth y bobl rydych chi’n eu caru faint rydych chi’n eu gwerthfawrogi.

P’un a ydych chi’n meddwl am eich partner, eich ffrindiau gorau, neu hyd yn oed chi eich hun (mae tripiau ar eich pen eich hun i’r theatr yn un o’r ffyrdd gorau o fynegi hunan-gariad), mae gennym ni’r ffordd orau o fynegi eich cariad. Gallwch chi ddewis mwynhau rhamant, wylo gyda stori dorcalonnus neu osgoi cysyniadau traddodiadol cariad yn gyfan gwbl; mae gennym ni rywbeth i bawb (gyda phrisiau pleserus <3)

BONNIE & CLYDE

Os ydych chi’n hoff o drosedd go iawn, sioeau cerdd newydd a chariad eiconig, dewch i fod ymhlith y  cyntaf i fwynhau’r sioe ddiweddaraf o West End Llundain, Bonnie & Clyde. Mae enillydd y Sioe Gerdd Newydd Orau (WhatsOnStage Awards 2023) yn dod â’r stori wefreiddiol i Gaerdydd.

EDWARD SCISSORHANDS - Matthew Bourne’s New Adventures

Mae sinema wedi rhannu rhai o’r straeon cariad mwyaf cofiadwy erioed, ond efallai mai Edward Scissorhands yw’r un mwyaf unigryw. Mae Matthew Bourne yn cyflwyno ei gynhyrchiad dawns hudol, yn seiliedig ar ffilm Tim Burton ac yn cynnwys cerddoriaeth brydferth Danny Elfman a Terry Davies, o’r stori ffraeth a theimladwy yma am fachgen anorffenedig yn cael ei adael ar ei ben ei hun mewn byd newydd rhyfedd. Sbectacl na ddylid ei golli.

AN OFFICER AND A GENTLEMAN

Gan aros gyda chlasuron Hollywood, paratowch i gael eich ysgubo oddi ar eich traed gydag An Officer and a Gentleman The Musical, yn seiliedig ar y ffilm arobryn o'r 80au. Bydd y stori ddiamser yma am gariad, dewrder ac achubiaeth yn codi eich calon ac yn eich gadael yn ysu am fwy. Gyda thrac sain poblogaidd sy’n cynnwys caneuon gan Madonna, Bon Jovi, Cyndi Lauper, Blondie a llawer mwy, bydd pŵer cerddoriaeth yn mynd â chi drwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau eu stori gariad anhygoel, gan gynnwys y gân arobryn (Love Lift Us) Up Where We Belong.

BUFFY REVAMPED

Weithiau gall cariad fod yn gymhleth… yn enwedig os ydych chi’n fampir enigmatig ganrifoedd oed o Lundain, ac mae’r person rydych chi’n dwli arno yn lleiddiad, wedi’i dynghedu i wared y ddaear rhag creaduriaid fel chi. Drwy saith cyfres, gan gynnwys y bennod gerddorol ddiffiniol, daeth Buffy the Vampire Slayer yn glasur cwlt, ond a ydych chi erioed wedi dyfalu sut beth fyddai ei ailwylio o safbwynt Spike?

Wel, dyma’r amser i ffeindio allan. Mae Buffy Revamped yn berl bywiog sy'n cyflwyno’r 144 o benodau o’r sioe deledu boblogaidd o’r 90au drwy lygaid yr un person sy’n ei wybod yn llwyr… Spike. Efallai mai dyma fydd y stori gariad mwyaf amgen a welwch eleni.

PRETTY WOMAN THE MUSICAL

Gofynnwch i unrhyw un restru’r rom-coms mwyaf poblogaidd erioed ac mae’n siŵr y byddan nhw’n enwi Pretty Woman. Mae ffilm Gary Marshall, gyda Julia Roberts a Richard Gere, yn dod yn fyw ar y llwyfan y gwanwyn yma. Byddwch yn rhan o’u rhamant yn y fersiwn theatraidd syfrdanol yma o’r stori gariad ddiamser, a dewch i adnabod y cymeriadau eiconig mewn ffordd newydd sbon mewn sioe anhygoel a fu’n llwyddiant ysgubol yn y West End yn Llundain.

CARRIE HOPE FLETCHER – LOVE LETTERS

Ym mis Hydref gallwch chi wylio un o berfformwyr mwyaf rhyfeddol y DU. Yn Carrie Hope Fletcher – Love Letters, bydd y perfformiwr theatr gerdd yn archwilio pob math o gariad; o ramantus i famol, annychweledig i obsesiynol, wedi’u harddangos drwy gymysgedd o glasuron syfrdanol o sioeau cerdd. Peidiwch â cholli’r cyngerdd rhyfeddol o bersonol yma sy’n siŵr o gynhesu a thorri eich calon.

PONTYPOOL

Os oes well gennych chi straeon arswyd a chael ofn, mae ein cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru nesaf PONTYPOOL wedi’i hysbrydoli gan y ffilm gwlt o 2008 a drawsnewidiodd y genre sombi.Roedd y DJ radio Grant Mazzy yn arfer bod yn frenin y tonnau awyr, ond mae ei geg fawr a’i ego hyd yn oed yn fwy wedi golygu ei fod wedi gorfod gadael y gorsafoedd cenedlaethol, ac mae bellach yn gweithio i Beacon Radio, gorsaf anhysbys Pont-y-pŵl.

Ar Ddydd Santes Dwynwen, sy’n eira i gyd, mae Mazzy a’i dîm yn paratoi ar gyfer sioe frecwast arall, ond mae pethau’n troi’n annifyr wrth i adroddiadau dryslyd gyrraedd am derfysgoedd a thorfeydd yn parablu yn y dref.

A all Mazzy aros ar yr awyr i wneud synnwyr o bopeth, neu a fydd Pont-y-pŵl yn tawelu?

AC YN OLAF…

& JULIET

Pa restr o straeon rhamantus allai fod yn gyflawn heb sôn am… a dweud y gwir, beth petai hanes theatraidd yn cael ei ailysgrifennu? Beth petai Shakespeare wedi ysgrifennu diweddglo gwahanol? Beth petai Juliet… wedi byw?

Wedi’i chreu gan awdur Schitt’s Creek a enillodd wobr Emmy, mae’r sioe gerdd newydd ddoniol yma yn troi sgript y stori gariad fwyaf erioed ar ei phen ac yn gofyn beth fyddai’n digwydd nesaf pe na bai Juliet wedi rhoi pen ar y cwbl oherwydd Romeo? Mae stori newydd Juliet yn dod yn fyw drwy restr chwarae o anthemau pop, gan gynnwys Baby One More Time, Roar, Since U Been Gone, It’s My Life, Can’t Stop the Feeling a mwy – i gyd gan Max Martin, y cyfansoddwr caneuon/cynhyrchydd talentog sydd tu ôl i fwy o ganeuon #1 nag unrhyw artist arall y ganrif yma, a’i gydweithredwyr.

Yn dod yn 2025. Ond bydd werth yr aros… addo.

Mae bob amser llawer mwy i’w harchwilio yn ein rhaglen – o opera o safon fyd-eang i sioeau cerdd o’r West End i sioeau aflafar a phleserus yn Cabaret. Rhowch theatr fel rhodd i rywun rydych chi’n ei garu.

Yn dwli ar theatr? Ymaelodwch i gael y seddi gorau yn yr awditoriwm yn ogystal â gostyngiadau ar fwyd a diod a chynigion arbennig ar docynnau.