Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Sioeau arbennig i’r haf

Mae’r dyddiau’n mynd yn hirach, mae’r tywydd yn cynhesu... mae’r haf ar y ffordd o’r diwedd! Dyma ein 10 sioe orau sy’n dod yr haf yma. 

The Ocean at the End of the Lane

30 Mai – 3 Mehefin 2023 

O ddychymyg Neil Gaiman, awdur poblogaidd Coraline, Good Omens a The Sandman, daw addasiad llwyfan arwyddocaol newydd y National Theatre o The Ocean at the End of the Lane. Mae’r antur wefreiddiol hon sy’n llawn ffantasi, chwedloniaeth a chyfeillgarwch yn sioe wych pum seren sy’n cyfuno hud a lledrith â’r cof mewn campwaith o adrodd stori, sy’n mynd â’r gynulleidfa ar daith epig i blentyndod a oedd unwaith yn angof a’r tywyllwch sy’n llechu gerllaw. 

Dod o hyd i docynnau

Cabaret

Mae rhywbeth i bawb yn Cabaret.

Bad Sex Writing Workshop – 4 Mehefin

Rhowch gynnig ar ysgrifennu ffuglen erotig dafod-yn-y-boch bwrpasol wael gyda’r awdur a Llawryf Geiriau Plymouth, Laura Horton. 

Rhys Nicholson: RHYS, RHYS, RHYS, – 14 Mehefin

Seren RuPaul’s Drag Race Down Under, Enillydd Gwobr Sioe Orau Gŵyl Gomedi Sydney 2022. 

Burlesque Book Club – 14 Gorffennaf

Wedi’i gyflwyno gan un o berfformwyr bwrlésg comedi gorau Prydain, Titsalina Bumsquash. 

Digwyddiadur

The SpongeBob Musical

6 – 10 Mehefin 2023 

Pwy sy’n byw mewn pinafal o dan y môr ac yn seren enwog ar Broadway? SpongeBob Squarepants!   

Gyda’r seren gerddorol o Pop Idol Gareth Gates ac eicon RuPaul’s Drag Race Divina De Campo, mae The SpongeBob Musical, a ysgrifennwyd gan Kyle Jarrow ac a luniwyd gan Tina Landau, yn cynnwys ton o ganeuon gwreiddiol gan artistiaid roc a phop mwyaf eiconig y byd. 

Dod o hyd i docynnau

Opera Cenedlaethol Cymru: Candide

22 – 24 Mehefin 2023 

Mae Candide, gan Leonard Bernstein, yn antur wefreiddiol wyllt, lle mae bywyd yn Ffrainc yn ystod y ddeunawfed ganrif yn gwrthdaro â bywyd yn America yn yr ugeinfed ganrif, ar ôl y rhyfel. Cymerwch sedd, a pharatowch eich meddwl am daith droellog wrth i chi ruthro drwy fyd rhyfeddol yn llawn anhrefn – o gestyll yn yr Alpau i nendyrau Montevideo, o ddaeargrynfeydd yn Lisbon i'r jwngl Amasonaidd y tu hwnt i'r Wladfa. Wrth wylio cymdeithas wedi'i hollti gan anghydraddoldeb a theuluoedd yn cael eu dadleoli gan ryfel, mae'r stori'r un mor berthnasol heddiw a phan gafodd ei hysgrifennu’n gyntaf yn 1759. 

Dod o hyd i docynnau

Greatest Days

27 Mehefin – 1 Gorffennaf 2023 

Dewch i fwynhau’r cynhyrchiad newydd syfrdanol yma o sioe gerdd lwyddiannus Take That, Greatest Days. Mae’r sioe yn cynnwys mwy na 15 o ganeuon poblogaidd Take That, ochr yn ochr â stori dwymgalon a doniol am gariad, colled a chwerthin gan yr awdur arobryn Tim Firth.   

Yn perfformio yn Greatest Days fydd yr arobryn Kym Marsh, a ddaeth yn enwog pan oedd yn y band Hear'Say ac sydd bellach yn fwyaf adnabyddus am fod yn Coronation Street, Waterloo Road ac fel cyflwynydd ar Morning Live ar y BBC. 

Dod o hyd i docynnau

Annie

3 – 8 Gorffennaf 2023 

Mae'r cynhyrchiad llwyddiannus o Annie yn dod i Gaerdydd, yn uniongyrchol o West End Llundain. Mae'r adfywiad yma yn cynnwys y beirniad o Strictly Come Dancing Craig Revel Horwood fel Miss Hannigan! 

Gyda llyfr a sgôr sydd wedi ennill gwobrau Tony®, gan gynnwys y caneuon bythgofiadwy It’s The Hard-Knock Life, Easy Street, I Don’t Need Anything But You a Tomorrow, gallwch fetio’ch dimai olaf y byddwch chi wrth eich bodd! 

Dod o hyd i docynnau

Winnie the Pooh

3 – 5 Awst 2023 

Mae cymeriad eiconig Disney Winnie the Pooh, Christopher Robin a’u ffrindiau gorau Piglet, Eeyore, Kanga, Roo, Rabbit ac Owl (o... a pheidiwch ag anghofio Tigger hefyd!) wedi dod yn fyw mewn addasiad llwyfan cerddorol hyfryd.  

Gyda cherddoriaeth boblogaidd y brodyr Sherman a enillodd wobr Grammy a chaneuon pellach gan A.A. Milne, mae stori’r addasiad llwyfan newydd a phrydferth yma yn cael ei hadrodd gyda phypedwaith syfrdanol maint go iawn drwy lygaid y cymeriadau rydyn ni i gyd yn eu hadnabod ac yn dwli arnynt, mewn stori newydd o’r Hundred Acre Wood. 

Dod o hyd i docynnau

Six

8 – 12 Awst 2023 

O freninesau Tuduraidd i dywysogesau pop, mae chwe gwraig Harri VIII yn gafael yn y meic i adrodd eu hanesion, gan gymysgu pum can mlynedd o dor-calon hanesyddol mewn dathliad 80 munud o bŵer merched yn yr 21ain ganrif. 

Ysgarwyd. Dienyddiwyd. Yn Fyw! 

Dod o hyd i docynnau

42nd Street

14 – 19 Awst 2023 

Mae’n fawr… mae’n llachar… dyma gynhyrchiad newydd sbon o’r sioe gerdd anhygoel 42nd Street, gyda Samantha Womack fel Dorothy Block, ochr yn ochr â Michael Praed fel Julian Marsh, Faye Tozer fel Maggie Jones, Les Dennis fel Bert Barry a Nicole-Lily Baisden fel Peggy Sawyer. Mae 42nd Street yn stori ddiamser a chalonogol sy’n cyfuno dawnsdrefnau tap ysblennydd, cynllwynio cefn llwyfan, rhamant glasurol a chomedi difyr. Mae’n wirioneddol hudolus! 

Dod o hyd i docynnau

Heathers The Musical

22 – 26 Awst 2023 

Cyfarchion! Ar ôl dau dymor llwyddiannus yn y West End, rhediad hir yn The Other Palace ac ennill gwobr WhatsOnStage am y sioe gerdd newydd orau, mae Heathers The Musical, y sioe gerdd roc gomedi ddu sy’n seiliedig ar y ffilm eponymaidd o 1988, yn mynd ar daith genedlaethol newydd. 

Mae Veronica Sawyer o Westerberg High yn un arall o’r bobl dawel anadnabyddus sy’n breuddwydio am ddyddiau gwell. Ond pan mae’n ymuno â’r Heathers prydferth a chreulon ac mae’n bosibl y bydd ei breuddwydion am fod yn boblogaidd yn dod yn wir o’r diwedd, mae’r rebel ifanc rhyfeddol JD yn dangos iddi efallai ei bod hi’n lladdfa i fod yn anweledig ond mae bod yn adnabyddus yn waeth byth. 

Dod o hyd i docynnau

Yn dwli ar y theatr? Ymaelodwch i gael y seddi gorau yn y theatr a buddion eraill gwych drwy gydol y flwyddyn..