Ymunwch â ni am ychydig o hud y gaeaf yma. Mae gennym ni sioeau ysblennydd, gweithgareddau teuluol am ddim a danteithion gaeafol blasus fel y gallwch chi ymuno yn hwyl yr ŵyl.
Wyddoch chi nad oes angen tocyn ar gyfer sioe arnoch i ddod i mewn i Ganolfan Mileniwm Cymru? Rydyn ni ar agor yn ddyddiol i'r cyhoedd o 9am (10am ar ddydd Sul). Galwch heibio i ymweld â ni yng nghanol Bae Caerdydd. Mae croeso i bawb.
Sioeau Ysblennydd
Dihangwch i fyd newydd Disney's Aladdin, sydd yma yn ein Theatr Donald Gordon tan 14 Ionawr. Gydag effeithiau arbennig rhyfeddol, dros 350 o wisgoedd prydferth a cherddorfa fyw a chast ardderchog, mae Aladdin yn cynnwys yr holl ganeuon o'r ffilm a enillodd wobrau Oscar, gan gynnwys Friend Like Me, Arabian Nights ac A Whole New World.
Hefyd, o 6.30pm ddydd Gwener 15 a 22 Rhagfyr a 5 Ionawr, bydd dewin yn Ffwrnais, ein bar-caffi ar y llawr gwaelod, i'ch diddanu a'ch difyrru cyn y sioe!
Os ydych chi'n chwilio am rhywbeth ychydig yn wahanol, rhowch gynnig ar ein sioe cabaret Nadoligaidd i oedolion The First XXXmas: A Very Naughty-tivity. Wedi'i chyflwyno gan eicon Caerdydd Polly Amorous, mae'r strafagansa pum seren yma yn cynnwys syrcas syfrdanol, bwrlésg bendigedig a drag disglair. 18+ yn unig.
Hwyl deuluol am ddim
Rydyn ni'n dangos trioleg o ffilmiau gaeafol byr hardd gan Efa Blosse-Mason a Casi Wyn mewn partneriaeth ag Archif Ddarlledu Cymru. Does dim angen archebu – galwch heibio yn Bocs ar y llawr gwaelod a gwnewch eich hunain yn gyfforddus. Caiff y ffilmiau eu dangos yn ddyddiol un ar ôl y llall ac maen nhw'n addas i bob oed.
Gall pobl sy'n dwli ar natur a chelf archwilio ein gosodwaith a llwybr celf Nyth/Nest sy'n mynd â chi o amgylch ein hadeilad eiconig. Gyda nyth cerfluniol hudol, seinwedd goedwigol, printiau gweadwy cynnes a ffurfiau coed helyg cyffyrddadwy, mae'r artistiaid Catrin Doyle a Helen Malia yn dod â harddwch coetiroedd Cymru dan do.
Hefyd, mae gennym ni ystod o deganau a llyfrau plant yn Lolfa, ein lolfa gymunedol ar y llawr gwaelod, sydd yno i bawb eu mwynhau. Rydyn ni'n dwli gwrando ar eich cyfansoddiadau ar y glockenspiel!
Danteithion blasus yn Ffwrnais
Tretiwch eich hun i ddanteithion Nadoligaidd yn Ffwrnais, ein bar-caffi ar y llawr gwaelod. Rydyn ni'n gwerthu coffis tymhorol arbennig, siocled poeth, gwin brwd, mins-peis a stollen, yn ogystal â'n hystod arferol o gacennau o Pettigrew Bakeries a choffi a gaiff ei rostio'n lleol gan Quantum.
Gyda WiFi rhad ac am ddim, cerddoriaeth ymlaciol a chlustogau cyfforddus a wnaed yn arbennig gan y gwehydd â llaw lleol Llio James, byddwch chi eisiau aros drwy'r dydd (a mae croeso i chi wneud hynny).
Yn dod i weld Aladdin? Dewch yn gynnar a mwynhewch ein coctel Genie-tini arbennig neu foctel. Neu ymunwch â ni ar ôl y sioe i gael gostyngiad o 10%* ar ddiodydd wrth i chi sgwrsio am eich hoff bethau o'r sioe.
*yn berthnasol ar gyfer perfformiadau gyda'r nos yn unig
Mae aelodau’n cael mwy. Dewch yn aelod Ffrind heddiw i gael gostyngiad o 20% ar ddiodydd yn Ffwrnais, Caffi a’n bariau theatr.
Gan ein bod yn elusen, mae popeth a brynwch yn Ffwrnais yn helpu i ariannu ein cenhadaeth i roi mwy o fynediad i’r celfyddydau i’r rhai sydd ei angen fwyaf.