Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Grŵp o chwe pherfformiwr cabaret yn gwisgo corongylchau anhygoel, yn edrych i fyny at awyr y nos

The First XXXmas: A Very Naughty-tivity

Stiwdio Weston

5 – 31 Rhagfyr 2023

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London The First XXXmas: A Very Naughty-tivity {{::on_sale_date.label}} Stiwdio Weston MM/DD/YYYY 15 event-1925

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Duncan Hallis

The First XXXmas: A Very Naughty-tivity

5 – 31 Rhagfyr 2023

Stiwdio Weston

Gwisgwch eich cyfrwy asynnod bach! Mae’n amser am reid arall.

Mae’r tîm a gyflwynodd eu sioeau cabaret Nadolig a werthodd allan, sef XXXmas Carol a The Lion, The B!tch and The Wardrobe, yn ôl gyda’u ffiasgo Nadoligaidd olaf. Tri chynnig i Gymro.

A pha ffordd well o dreulio eu Nadolig olaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru na drwy ddathlu stori’r un cyntaf erioed: drama’r geni.

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

"festive extravaganza"

Buzz

"Saucy...cheeky...thought-provoking"

It's On Cardiff

Yn ymladd dros y prif rannau fydd Polly Amorous, Jenna Dyckhoff, Rahim El Habachi, FooFoo LaBelle, Eric McGill a Bunmi Odumosu, a fydd yn cyflwyno eu cymysgedd arferol o syrcas syfrdanol, bwrlésg bendigedig a drag disglair. Bydd yn bendant yn ddiweddglo i’w gofio.

Nid drama’r geni arferol mo hwn – gallwch chi ddisgwyl bugeiliaid digywilydd, angylion yn camymddwyn a gwaith coed sydd ychydig yn gnawdol gan Joseff. Bydd y sbectacl Nadoligaidd amgen yma yn gwneud i chi chwerthin a dyheu am fwy!

18+ yn unig. Gadewch y plant adref.

Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru a Duncan Hallis

"the queer nativity of dreams"

The Queer Review

Amser cychwyn: 8.30pm
Matinee 31 Rhagfyr 3.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 20 munud (gan gynnwys egwyl)

Cyfyngiad oedran: 18+

Hygyrchedd:
Caiff perfformiadau dydd Iau 14 a dydd Sadwrn 30 Rhagfyr eu cyfieithu i BSL gan Stephen Brattan-Wilson

Caiff perfformiadau dydd Sadwrn 16 a dydd Mercher 20 Rhagfyr eu sain ddisgrifio gan Ioan Gwyn

Rhybuddion

Mae hon yn sioe cabaret ysblennydd, Nadoligaidd a llawn hwyl. Fodd bynnag, roeddem ni am rannu rhai rhybuddion pwysig am y cynnwys ymlaen llaw i sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus.

Yn y sioe mae cynnwys i oedolion, megis: iaith gref iawn a thramgwyddus; delweddau o a chyfeiriadau at ryfel, gan gynnwys hil-laddiad; delweddau yn ymwneud â hunan-niweidio a hunanladdiad; cyfeiriadau at homoffobia, hiliaeth, senoffobia; noethni; cyfeiriadau rhywiol a golygfeydd o natur rywiol; rhoi gwrthrychau dieithr i mewn i gorff.

Mae’r perfformiad yma hefyd yn cynnwys: goleuadau strôb, synau uchel sydyn, gwaed, tân, mwg a tharth.

IECHYD DA!

Drysau ar agor 30 munud cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau ac archebu diod drwy ein ap. Gallwch archebu drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3 (ac eithrio rhagddangosiadau)

CYNNIG GRWPIAU

Grwpiau o 10+, £3 i ffwrdd (ac eithrio rhagddangosiadau). Trefnu ymweliad grŵp.

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Stiwdio Weston