Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ymunwch â’r tîm a chyfrannwch at ganolfan gelfyddydau cenedlaethol Cymru. Ein pobl sy’n dod â’r adeilad yn fyw.

Rydyn ni'n creu pob math o waith, ac am i bob math o bobl weithio gyda ni. Byddem ni wrth ein boddau petaech yn ystyried yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael gyda ni.

Rydyn ni am i Ganolfan Mileniwm Cymru fod yn gartref i bawb - gan groesawu a chynnwys pawb, ni waeth pa wahaniaethau sydd, gan ddathlu unigolion. Nod ein proses ymgeisio dienw yw sicrhau bod ein prosesau recriwtio yn gynhwysol ac yn deg, gan roi cyfleoedd i bobl o ystod eang o gefndiroedd.

Croesawn geisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.