Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Rydyn ni'n blaenoriaethu llesiant aelodau ein tîm. Mae ein pecyn buddion cynhwysfawr yn dangos ein hymrwymiad i'ch iechyd, hapusrwydd a thwf proffesiynol.

Nodwch y gall y buddion isod amrywio yn seiliedig ar delerau ac amodau neu natur eich contract cyflogaeth.

Tocynnau theatr am ddim

Mwynhewch docynnau theatr am ddim ar sail y cyntaf i'r felin, ynghyd â gostyngiadau arbennig ar ddigwyddiadau eraill amrywiol.

Gostyngiadau i staff

Manteisiwch ar ostyngiad o 20% ar fwyd a diod yn ein siop a chaffis, yn ogystal â gostyngiadau cyflogeion wrth fwyta allan, mynd i'r sinema, siopa, teithio, defnyddio'r gampfa a llawer mwy, gan gynnwys parcio gostyngedig yn Q-Park.

Cynllun arian parod iechyd

Mae ein cynllun yn cynnwys triniaethau deintyddol ac optegol, therapïau cyflenwol ac amgen a llwyth o wasanaethau eraill.

Amgylchedd gwaith bywiog a dymunol

Mwynhewch weithio yn ein hadeilad prydferth ac eiconig lle mae swyddfeydd modern a chydweithredol, yn ogystal â'n hardal blaen y tŷ ar ei newydd wedd. Rydyn ni'n gweithredu mewn gweithle bywiog a chyffrous lle y gall creadigrwydd ddisgleirio.

Wythnos waith 35 awr

Mae ein hwythnos waith safonol yn 35 awr o hyd, a'n nod yw darparu cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. (Nodwch fod hyn yn ddibynnol ar y rôl)

Gweithio hyblyg a hybrid

Rydyn ni'n cynnig opsiynau gwaith hyblyg a hybrid i'w gwneud yn haws i chi gael cydbwysedd rhwng gwaith ac ymrwymiadau personol. (Nodwch fod hyn yn ddibynnol ar y rôl).

Cynllun Beicio i'r Gwaith

Datgelwch ffordd o fyw iachach a mwy cynaliadwy gyda'n cynllun Beicio i'r Gwaith – pedlwch eich ffordd i ostyngiadau, ffitrwydd a phlaned gwyrddach tra eich bod chi'n mwynhau buddion cyflogeion arbennig.

Cynllun Cerbyd Trydan

Gyrrwch i mewn i'r dyfodol gyda'n cynllun Aberthu Cyflog ar gyfer Cerbyd Trydan – gwnewch deithio yn eco-gyfeillgar wrth fwynhau gostyngiadau treth-effeithlon a manteision ffordd gynaliadwy o fyw.

Yswiriant bywyd

Gwerth x4 eich cyflog blynyddol, yn amodol ar gwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus.

Gweithgareddau llesiant

Rydyn ni'n trefnu gweithgareddau llesiant rheolaidd fel tyliniadau (massages), yoga, clwb llyfrau a sesiynau crefft.

Rhaglen gymorth i gyflogeion

Mynediad dros y ffôn 24/7 at gwnselydd cymwys.

Dysgu a datblygu

Mae ein hamgylchedd gwaith yn blaenoriaethu dysgu a datbygu, ac yn rhoi cyfle i aelodau'r tîm dyfu. Fel rhan o Safonau'r Gymraeg, rydyn ni hefyd yn rhoi cyfle I bawb ddysgu Cymraeg am ddim.

Cynllun pensiwn uwch

Rydyn ni'n cynnig cynllun pensiwn cwmni uwch cystadleuol lle rydyn ni'n talu mwy.

Pecyn gwyliau blynyddol hael

Rydyn ni'n cynnig pecyn gwyliau hael o 25 diwrnod y flwyddyn, gyda'r cyfle i ychwanegu tri diwrnod arall fel gwobr am eich gwasanaeth a'ch ymroddiad. Mae hefyd cyfle i brynu neu werthu hyd at pum diwrnod o wyliau bob blwyddyn. Addasiadau pro-rata yn seiliedig ar delerau contract.

Cyflog mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu uwch

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ein nod yw rhoi sicrwydd ariannol i'n cyflogeion a'r cyfle i fwynhau amser gwerthfawr gyda theulu. Dyna pam rydyn ni'n cynnig taliadau chwyddo ar gyflog mamolaeth/mabwysiadu a thadolaeth, sef taliadau ychwanegol gennym ni i ategu cyfraddau statudol y llywodraeth.

Aelodaeth o glwb cymdeithasol

Mae Clwb, ein clwb cymdeithasol, yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd.

Gwobrau hyd gwasanaeth

Mae ein buddion staff yn cynnwys gwobr ariannol fel arwydd o werthfawrogiad am hyd gwasanaeth, gan gydnabod a gwobrwyo ffyddlondeb.