Ydych chi’n gwybod stori Diana? Siŵr o fod. Ond ydych chi’n gwybod y stori yma am Diana? Rydyn ni’n amau hynny’n fawr.
Ymunwch â Diana yn y nefoedd wrth iddi rannu stori heb ei hadrodd ac anwir ei bywyd anghyffredin yn y sioe lwyddiannus o Ŵyl Ymylol Caeredin.
Yn cyfuno drag, amlgyfrwng, rhyngweithio â’r gynulleidfa, pypedwaith a llawer o lawenydd cwiar, mae’r dathliad yma o Dywysoges y Bobl – Ar Di – yn ddoniol a hurt.
Yn dilyn rhediad yng Ngŵyl Ymylol Caeredin a werthodd allan a theithio’r byd, mae’r naratif brenhinol anghonfensiynol yma gan Awkward Prods (Gwyneth Goes Skiing, The Fit Prince) yn dychwelyd i Cabaret ym mis Tachwedd.
Absurd, camp, chaotic, and hilarious
Perfectly imagined and brought to life
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Goleuadau sy’n fflachio, iaith gref, cyfranogiad cynulleidfa, pypedwaith, Camilla Parker Bowles
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret