MADONNA ON DEMAND
Amser dechrau a hyd:
8pm, Doors 7pm
Oed:
18+
Mae Madonna on Demand yn deyrnged fyw, acwstig, bersonol ac anrhagweladwy i’r Frenhines. Wedi’i churadu mewn amser go iawn gan y gynulleidfa, mae’n wahanol bob tro.
Mae’r sioe yn ceisio troi pob carreg, ond mae cromgell doreithiog Madonna o gyflawniadau cerddorol yn rhy enfawr… dyma lle mae’r gynulleidfa yn dod yn fyw yn y ffurf ‘dewiswch eich antur eich hun’ yma.
Felly beth fydd hi? Cân a gyrhaeddodd brig y siartiau neu un llai adnabyddus? Gyda chymysgedd o synau clasurol a fersiynau newydd: Mae ‘Give it 2 Me’ yn gân jazz, fersiwn Baroque o ‘Sorry’ a byddai ‘Devil Wouldn’t Recognize You’ yn llwyddiant mawr gyda chriw Bridgerton.
Yn llawn eiliadau emosiynol, llawer o chwerthin a syrpreisys, mae’r sioe yma yn llythyr cariad at holl ffans Madonna ac mae’n sicr o fod yn brofiad newydd bob tro.
Wedi’i gyd-greu a’i berfformio gan Melissa Totten, seren brofiadol ym maes artistiaid teyrnged, a’r pianydd penigamp Paul St. Paul.
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret
Cabaret
Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.