Skip to main content

HOWL QUARTET

4 Chwefror 2027
Cabaret
HOWL QUARTET
4 Chwefror 2027, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

Start time 8pm, doors 7pm

Oed:

18+

HOWL QUARTET

Mae Howl Quartet yn brosiect arobryn yn y DU ac mae ei gerddoriaeth ddeinamig a mynegiannol yn canolbwyntio'n helaeth ar adrodd straeon drwy gyfansoddi melodig a byrfyfyr.

Wedi'i ffurfio o hen ffrindiau a chydweithwyr, daeth y pedwarawd acwstig yma i'r amlwg yn 2017 drwy angerdd dros ddatblygu sain ar y cyd. Wedi'i ysbrydoli gan artistiaid fel Endangered Blood, The Bad Plus a Brian Blade & The Fellowship Band, mae rhyddid cynhenid a dwyster creadigol i'w cerddoriaeth.

Cwrddodd Dan Smith a Pete Komor gyntaf yng Nghaerdydd yn 2010 wrth astudio gyda'i gilydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Erbyn 2013 roedd Harry Brunt hefyd wedi cofrestru yn CBCDC (yn dilyn BA mewn Llenyddiaeth Saesneg) a daeth y tri yn ffrindiau cadarn a chydweithwyr rheolaidd. Erbyn 2015 roedd Dan, Pete a Harry wedi symud i Lundain i astudio ymhellach (The Royal Academy of Music a Guildhall School of Music & Drama) a pherfformio'n rheolaidd. Yn fuan fe wnaethon nhw gwrdd â Matt Parkinson ar y sîn bywiog a dechrau chwarae'n rheolaidd mewn llu o gyd-destunau cerddorol. Yn wreiddiol, daeth Harry â Howl Quartet at ei gilydd yn 2017 wrth chwilio am gyfle i archwilio cyfansoddi llinellol yn arddull Wayne Marshe a Lee Konitz. Yn fuan, fodd bynnag, dechreuodd y band ysgrifennu cyfansoddiadau wedi'u hysbrydoli gan rythmau gwerin, roc a chyfoes a dechreuon nhw lunio sain sy'n unigryw iddyn nhw. Mae'r blynyddoedd o gyfeillgarwch a pherfformio wedi creu amgylchedd agored a myfyriol sy'n caniatáu lle i gerddoriaeth ddofn a meddylgar gael ei chreu. Fel grŵp, mae Howl Quartet yn rhannu eu profiadau personol yn eu cyfansoddiadau ac yn portreadu bywyd mewn ffordd angerddol a gonest.

Ar ôl perfformio yng Ngŵyl Jazz EFG Llundain a Vortex Jazz Club, rhyddhawyd albwm cyntaf Howl Quartet, Life As We See It, yn gynnar yn 2021 gyda chefnogaeth cronfa Help Musicians 'Do It Differently'. Fe wnaeth eu hail albwm, Airglow, fireinio eu sain ac fe'i rhyddhawyd ar 14 Gorffennaf 2023 i ganmoliaeth gan adolygwyr. Yn dilyn eu gig lansio albwm yng Nghlwb Jazz PizzaExpress, Soho, daeth eu taith 7 dyddiad yn y DU i ben gyda sioe flaenllaw yn The Elgar Room, Royal Albert Hall fel rhan o Ŵyl Jazz EFG Llundain 2023. Mae Howl Quartet yn dderbynwyr Gwobr Ddatblygiadol trwy Wobrau Jazz Peter Whittingham, a gefnogodd eu trydydd albwm, Night Song, yn 2025. Cwblhaodd y band daith Ewropeaidd 14 dyddiad i ddathlu. 

…wonderful, wonderful stuff!

Nicki Yeoh, Jazz FM

Like the rolling countryside it evokes, it’s never bombastic, but quietly, insidiously compelling, drawing the listener back again and again.

Jazzwire

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

RHEOLAU TŶ CABARET

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Wedi'i gyflwyno yn

Cabaret

Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.