For Wales, See Wales - Christmas Live Show!
Oed:
18+
Mae'r triawd For Wales See Wales yn llawenhau gyda Sioe Fyw Nadolig!
Bydd Will, Mel a Robin yn dod â'r hwyl Nadoligaidd gan edrych ‘nôl ar flwyddyn ENFAWR yng ngwleidyddiaeth Cymru. Ochr yn ochr â'u rhagfynegiadau, byddan nhw’n meddwl pwy yn y Senedd ddylai fod yn cael anrhegion yn eu hosanau y Nadolig yma, a phwy ddylai fod yn deffro i lo!
Pwy sy'n dod i lawr simnai Cabaret? A allai fod yn westai arbennig i ymuno â thîm For Wales See Wales ar gyfer y sioe unigryw yma? Mae’n bosib…
Ni fydd y sioe yma yn cael ei darlledu, felly os ydych chi eisiau ei gweld... rhaid i chi fod yno!
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret
Cabaret
Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.