Skip to main content

Del Fflur VarieTEASE

6 Chwefror 2027
Cabaret
Del Fflur VarieTEASE
6 Chwefror 2027, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

8pm

Oed:

18+

Rhybuddion:

Possible bad language and nudity

Del Fflur VarieTEASE

Mae'r llen yn codi. Mae'r diodydd yn llifo. Ac mae'r pryfocio'n dechrau…


Croeso i Del Fflurs VarieTEASE — noson anhygoel o glam, chwerthin, direidi a jyst digon o demtasiwn.

Mae Del Fflurs VarieTEASE yn tynnu ynghyd y gorau o fyd cabaret, bwrlésg, comedi ac adloniant i greu noson hollol annisgwyl a gwych.

Gallwch ddisgwyl secwins, sas, perfformiadau ffyrnig a sypreisys gwych wrth i'n cast syfrdanol fynd â chi ar daith ar ochr fwy drygionus adloniant.

Ar gyfer Mis Hanes LHDTC+, rydyn ni'n dod â'r llawenydd cwiar — fel bob amser!

Byddwn ni'n creu gofod i ddathlu ein hanes, ac yn rhoi llwyfan i berfformwyr ac artistiaid gwych o bob rhan o'r gymuned LHDTC+.

Dewch am y pryfocio, arhoswch am yr hanes, a dathlwch lawenydd, gwydnwch a chreadigrwydd ein cymuned.

Cabaret gydag agwedd.

Adloniant gyda winc.

VarieTEASE.

Felly bachwch eich hoff bobl, gwisgwch i greu argraff a pharatowch i gael eich syfrdanu, eich boddhau a'ch pryfocio.

Cynhyrchwyd gyda balchder gan Lili Del Fflur o Del Fflur Productions

Dydych chi byth yn gwybod yn iawn beth sy'n dod nesaf... ond fyddwch chi ddim eisiau ei fethu.

18+ | Disgwyliwch yr annisgwyl.

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

RHEOLAU TŶ CABARET

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Wedi'i gyflwyno yn

Cabaret

Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.