Cardiff Comedy Club
Amser dechrau a hyd:
Drysau am 7pm, Sioe am 8pm
Oed:
18+
Mae Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru wedi ymuno â’r curadwyr comedi Little Wander (y meddyliau tu ôl i Ŵyl Gomedi Machynlleth) i gyflwyno’r stand-yp rhyfedd, syfrdanol a hynod ddoniol gorau.
Gallwch chi ddisgwyl straeon swreal, sylwadau siarp a’r math o gomedi sy’n gwneud i chi chwerthin yn gyntaf a gofyn “aros, beth sydd newydd ddigwydd?” wedyn.
Y nodweddion nos:
Paul Hilleard (MC)
Dyn od, sych o Gymru.
Digrifwr Newydd y Flwyddyn y BBC 2024
Fel y gwelwyd ar Comic Relief
“Energy and delivery on stage absolutely fantastic” – Babatunde Aleshe
Sikisa
Fel y gwelwyd ar ITV, BBC, DAVE a Comedy Central
Teilyngwr Gwobr Gomedi Newydd y BBC
4 x Enwebai Gŵyl Gomedi Caerlŷr
Enwebai Gwobrau Chortle
Enwebai Sioe Orau Gwobrau Ish
Enillydd Bwrsariaeth The 99 Club 2022
"She is an irresistible force of nature" - Beyond the joke
"Aggressively funny” - The List
Rohan Sharma
Digrifwr yw Rohan sydd heb lawer i’w ddweud a llawer o eiriau i egluro hynny. Mae wedi cymryd ei frand unigryw o stand-yp sydd wedi cael ei asesu’n feirniadol ledled gwledydd Prydain ac mae wedi ysgrifennu ar gyfer Radio 4Extra. Mae’n Deilyngwr Act Newydd 2Northdown, Teilyngwr So You Think You’re Funny 2022 a daeth yn 3ydd yng Ngwobr Max Turner.
Rich Wilson
"Wilson makes it all look effortless...for engaging, chatty,unadorned stand-up, Wilson knows how to deliver" - Chortle
"Highly entertaining" - Time Out
"He's a very very funny man" - Frank Skinner
“Tour-de-force.” - Leicester Mercury
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret
Cabaret
Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.