Skip to main content

An Evening With Marilyn Monroe

20 Mawrth 2027
Cabaret
Blonde woman in a sparkling gold dress and pale blue feather stole, posing against a dark backdrop
An Evening With Marilyn Monroe
20 Mawrth 2027, Cabaret

Amser dechrau a hyd:

8pm, drysau 7pm

Oed:

18+

An Evening With Marilyn Monroe

O swyno’r West End yn Theatr fawreddog Adelphi a Crazy Coqs i ennill llwyddiant yng Ngŵyl Cyrion Caeredin, mae Isabella wedi dod yn ffenomen, gan dderbyn nifer o adolygiadau 5 seren am ei pherfformiadau eithriadol fel Monroe.

Mae hi’n dod â chymeriad Marilyn yn fyw mewn ffordd sy’n rhagori ar bob disgwyliad, gan greu profiad bythgofiadwy i selogion y theatr.

Dyma deyrnged gomedi ymdrochol a fydd yn gwneud i chi chwerthin yn uchel, i un o sêr mwyaf eiconig Hollywood! Ymunwch â ni am daith dwymgalon drwy fywyd Duwies anfarwol America. Profwch sut beth yw bod yn un o sêr bach mwyaf secsi Hollywood, gan ddatrys dirgelion ei bywyd a’i hymgais i chwilio am gariad.

Gan gadw at bersona amlochrog Marilyn fel actores, cantores a digrifwraig, mae Isabella yn swyno cynulleidfaoedd gyda’i chanu, ei straeon a’i hiwmor doniol. Gyda thebygrwydd rhyfeddol a phersonoliaeth sy’n adleisio’r flonden fawreddog ei hun, mae Isabella yn cyflwyno un o’r profiadau Marilyn mwyaf dilys y gellir eu dychmygu.

Gyda band byw pedwar aelod yn ei chefnogi, paratowch ar gyfer setiau hudolus yn llawn caneuon ysblennydd Marilyn a newidiadau gwisgoedd disglair, gan gynnwys clasuron oesol fel “Diamonds Are a Girl’s Best Friend” ac “I Wanna Be Loved by You”. Dewch i brofi noson hudolus sy’n atgoffa rhywun o oes aur y byd adloniant.

Rhwng caneuon, bydd Marilyn yn rhannu straeon doniol ac uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ei bywyd fel prif symbol rhyw Tinseltown. Byddwch yn barod i fwynhau sgetsys comedi rhyngweithiol ar daith i ddod o hyd i ŵr posib, gan wahodd cyfranogiad gan y gynulleidfa a digon o chwerthin.

Mae portread unigryw Isabella o Marilyn yn hollol ddiffuant a dilys. Nid dim ond chwarae cymeriad Marilyn mae hi, mae hi wir yn ymgorffori ei phersonoliaeth gyda dilysrwydd sy’n diffinio ei pherfformiad.

Mae’r sioe’n cynnig popeth y gallech ei ddymuno o noson agos-atoch gyda’r seren. Cyd-ganwch i’r clasuron, rhannwch ddiod, ac ymgollwch ym mhrofiad digyffelyb byd Marilyn Monroe.

Her spookily accurate portrayal of the iconic star really takes your breath away.

UK Cabaret Magazine

I was taken on a journey in time and for a while I thought I was JF Kennedy miraculous performance.

Dr Voice (Voice Coach to the Stars)

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

RHEOLAU TŶ CABARET

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Wedi'i gyflwyno yn

Cabaret

Cartref Caerdydd ar gyfer yr annisgwyl.